Addas ar gyfer y dyfodol
23 Ebrill 2020
Cwricwlwm arfaethedig Cymru ar gyfer addysg oedran orfodol, sy’n hanfodol er mwyn cefnogi dinasyddion yfory a gweithwyr mewn byd a lywir gan newid yn yr hinsawdd a datblygiadau ym meysydd technoleg, awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial, oedd canolbwynt sesiwn hysbysu dros frecwast diweddaraf Ysgol Busnes Caerdydd.
Dechreuodd yr Athro Calvin Jones, Dirprwy Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus a Chysylltiadau Allanol yn Ysgol Busnes Caerdydd, y digwyddiad drwy rannu fideo cyflwyniadol byr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe.
Esboniodd Ms Howe ei bod hi a’r Athro Jones wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf i ystyried pa fath o system addysg oedd ei hangen yng Nghymru er mwyn dysgu’r sgiliau a’r cyfeiriadedd dinesig i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Meddai: “Rydym eisoes yn gwybod bod deallusrwydd artiffisial ac awtomateiddio yn cymryd llawer o swyddi yng Nghymru, a bydd hyn yn cael effaith ar y mathau o sgiliau y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn eu gyrfaoedd…”
Dilynodd yr Athro Jones gyflwyniad y Comisiynydd drwy ganolbwyntio ar rai o’r heriau y mae’r ddarpariaeth addysg yng Nghymru ac yn y byd yn eu hwynebu.
Hinsawdd, technoleg, demograffeg
Amlinellodd sefyllfa ddybryd argyfwng yr hinsawdd a sut mae’n rhaid i’r model a ddefnyddir gan y sector addysg uwch – un a nodweddir gan deithio rhyngwladol ar raddfa fawr gan fyfyrwyr a staff – newid yn sylweddol er mwyn lleihau allyriadau CO2 mewn modd ystyrlon.
Nesaf, trafododd yr Athro Jones rai o ganfyddiadau’r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol a gynhaliwyd gan yr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd. Trwy gysylltu ei ganfyddiadau o ymddieithrio digidol a rhaniadau gwledig/trefol, pwysleisiodd bwysigrwydd mynd i’r afael â’r heriau drwy arfogi pobl a busnesau gydag addysg berthnasol a sgiliau.
Dywedodd: “Ni allwn fforddio i’r genhedlaeth nesaf o berchnogion busnes yng Nghymru fod mewn sefyllfa lle maen nhw’n ymlusgo y tu ôl i rannau eraill o’r DU a’r byd yn eu hymateb i dechnoleg.”
I gefnogi hyn, rhannodd yr Athro Jones ddata o’i bapur gwaith yn ymwneud ag effaith awtomeiddio ar swyddi proffesiynol, yn arbennig ym maes manwerthu ac yn ein dinasoedd, ond hefyd gyda thwf ac effaith gwerthiannau dros y rhyngrwyd yn y DU, ac ar draws sectorau gwasanaeth gan gynnwys yswiriant, y gyfraith a chyfrifeg.
Daeth â’i drafodaeth o heriau mawr i ben drwy wneud sylwadau am newidiadau demograffeg.
Wrth sôn am sut mae pobl yn byw bywydau llawer hirach yn egnïol, yn gorfforol ac yn economaidd, dywedodd yr Athro Jones: “Mae’r syniad o un yrfa, neu ddod ag addysg i ben yn 16, 18, 21 neu hyd yn oed 26 ar ôl PhD, yn hen newyddion. Bydd angen i ni fod yn ymateb yn gyson i donnau o dechnoleg, newidiadau amgylcheddol ac ecolegol a thueddiadau demograffig ac ymfudol, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein sgiliau’n rhai diweddar.
“Felly, mae parhau i ddysgu ar draws oes bywyd cyfan yn hynod bwysig os ydym eisiau aros mewn sefyllfa lle rydym yn cynnig gwaith cynhyrchiol a gwerth chweil i’n pobl.”
Cynllun Cymru
Ar gyfer gweddill ei gyflwyniad, trodd yr Athro Jones at y cwricwlwm newydd i Gymru.
Tynnodd sylw agos rhwng ei nodau a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y disgrifiodd yr Athro Jones fel map ffordd Cymru – ei llyfr tywys – tuag at ddatblygu economi sy’n fwy cynhwysol, ymatebol a hyblyg.
Fodd bynnag, esboniodd mai un o brif ddiffygion cyflwyno’r cwricwlwm newydd yw diffyg ariannu.
Ychwanegir at y diffyg ariannol gan gyfyngiadau pellach wrth gyflawni TGCh, sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ogystal â dulliau asesu safonol.
I gloi, dadleuodd yr Athro Jones nad yw cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn bosibl yn y sefyllfa sydd ohoni heb y canlynol:
- Ailadeiladu addysgu fel proffesiwn dysgu go iawn.
- Bod mwy o sefydliadau yng Nghymru yn poeni am ddysgu plant.
- Addysgu cyfannol, trawsgwricwlaidd y tu hwnt i feysydd dysgu a phrofiad.
- Gweithwyr proffesiynol newydd yn ein hysgolion: rhoddwyr gofal, gwneuthurwyr lleoedd ac eco-ryfelwyr.
- Treth neu ardoll Addysg Cymru.
Yn dilyn ei gyflwyniad, derbyniodd yr Athro Jones gwestiynau am effaith COVID-19, asesu safonol, trethi uwch, iwtilitariaeth a chystadleuaeth, gan ddod â’r sesiwn hysbysu i ben.
Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.
Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.
Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.