Cronfa Her gwerth £10m i Ail-lunio Cymdeithas
19 Hydref 2020
Mae Cronfa Her (CCR) gwerth £10m Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddod o hyd i atebion arloesol i broblemau cymdeithasol yn cael ei lansio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Bydd Cronfa Her CCR yn gwahodd cyrff y sector cyhoeddus i ddatblygu heriau a chysylltu â'r sector preifat i ddarparu atebion.
Nod y dull yw sicrhau canlyniadau gyda llwybr i’r farchnad, lle nad oes ateb masnachol yn bodoli ar hyn o bryd.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi nodi tair thema her allweddol: cyflymu datgarboneiddio, gwella iechyd a lles rhanbarthol, a chefnogi, gwella a thrawsnewid cymunedau.
O heddiw ymlaen, mae Cronfa Her CCR yn agored i ddatganiadau o ddiddordeb gan bob sefydliad sector cyhoeddus ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n dymuno cyflwyno her.
Bydd gweithdai’n cael eu cynnal yn ddiweddarach eleni i alluogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i weithio gyda Thîm Cronfa Her CCR a Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu'r heriau.
Y bwriad yw dyfarnu o leiaf un contract her erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Ar hyn o bryd, bydd heriau'n cael eu lansio i'r farchnad agored a bydd yr arloesi'n dechrau.
Bydd Canolfan Ymchwil Polisi Arloesi'r Brifysgol yn ymuno ag Y Lab – Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac aelod o grŵp ymchwil ar y cyd gwyddorau cymdeithasol Caerdydd SPARK – i ddatblygu cynigion i’r heriau mewn cydweithrediad â chyrff y sector cyhoeddus a'r tîm CCR.
Dywedodd Gill Bristow, Athro Daearyddiaeth Economaidd Prifysgol Caerdydd ac aelod o Fwrdd Strategol y Gronfa Her: "Mae cymeradwyo Cronfa Her CCR yn ddatblygiad hynod gyffrous i'r ddinas-ranbarth yn enwedig wrth i ni geisio ailadeiladu'r economi yn sgil Covid-19. Bydd y Gronfa Her yn rhoi hwb i'r cydweithio rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a'r CCR ar ddatblygu economaidd lleol, ac yn cynnig cyfle i ddarparwyr y gwasanaethau cyhoeddus elwa ar arbenigedd ymchwil ac arloesedd y Brifysgol wrth i ni ymdrechu ar y cyd i ddod o hyd i atebion i heriau allweddol cymdeithas."
Nod y dull yw manteisio ar gryfder cwmnïau bach a chanolig mwyaf arloesol y rhanbarth, adfywio'r economi sylfaenol, a radicaleiddio caffael cyhoeddus mewn ffordd sy'n rhoi mwy o werth am arian, yn creu gwell canlyniadau i ddinasyddion ac yn hyrwyddo twf economaidd cytbwys.
Ychwanegodd Rick Delbridge, Athro Dadansoddi Sefydliadol Prifysgol Caerdydd ac Uwch-bartner Cyflenwi: "Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â Chronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i greu cyfleoedd masnachol i gwmnïau sy'n cynnig atebion addawol ac arloesol i heriau cymdeithasol mawr sydd wedi'u nodi gan gyrff cyhoeddus. Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes o ymchwil o’r radd flaenaf a chael effaith ar bolisi arloesi, datblygiad economaidd ac arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn gweithio gyda'r CCR a phartneriaid i ddatblygu a chyflwyno rhaglen arloesol o weithgarwch sy'n seiliedig ar ddulliau sydd wedi’u profi i greu rhaglen bwrpasol."
Dywedodd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cabinet Rhanbarthol CCR, ac aelod o Fwrdd Strategol y Gronfa Her: "Mae hon yn gronfa gyffrous ac mae’r amseru’n berffaith. Mae'n cynnig cyfleoedd i ni edrych ar hen faterion systemig drwy lygaid newydd. Mae'n rhaid i ni ailfeddwl ac ail-lunio, croesawu arloesedd a newid a gweithio gyda mwy o hyblygrwydd a chydweithredu i greu marchnadoedd newydd a dyfodol gwell, mwy cynaliadwy. Mae'r fenter hon yn ein galluogi i wneud hynny ac rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan flaenllaw wrth yrru'r fenter hon yn ei blaen."