Bydd egwyddorion marchnad y DG yn creu drwgdybiaeth o fewn yr undeb, yn ôl adroddiad newydd
17 Hydref 2020
Bydd rheolau newydd ar farchnad fewnol y DG yn tanseilio datganoli ac yn creu drwgdybiaeth rhwng llywodraethau'r Deyrnas Gyfunol, yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin.
Mae tîm o academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Newid Cyfansoddiadol Caeredin wedi cyflwyno'r adroddiad wrth i Fesur Marchnad Fewnol Llywodraeth y DG ddechrau ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Mae'r Mesur Marchnad Fewnol wedi cael ei feirniadu'n gryf gan lywodraethau a seneddau'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac mae'r adroddiad newydd yn ateb deg cwestiwn gwahanol am gynnwys y Mesur, gan ddod i'r casgliad, heb unrhyw amheuaeth, fod y Mesur yn:
- Gwneud offer llunio polisi’r llywodraethau datganoledig yn ddi-fin.
- Rhoi blaenoriaeth i diddymu rhwystrau posibl i fasnachu ar draul pob nod polisi cyhoeddus arall.
- Mynd i beri drwgdybiaeth pellach, a thanseilio cydweithrediad rhwng gwahanol wledydd y DG drwy, ymysg rhesymau eraill, sefydlu’r awgrym y gall Llywodraeth y DG ddefnyddio pwerau gwario newydd yn erbyn ewyllys y llywodraethau a'r seneddau yng Nghymru neu'r Alban.
Dywed yr adroddiad fod y Mesur yn debygol o fynd yn ei flaen heb gydsyniad deddfwriaethol gan y deddfwrfeydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan roi mwy o straen ar y berthynas rhyngddynt â’r DG, a bod achos yn bodoli dros dynnu’r Mesur yn ôl a dechrau eto.
Ond mae'r awduron yn gwneud cyfres o argymhellion a allai wella’r Mesur a lleihau ei effeithiau andwyol. Mae'r argymhellion hyn yn cynnwys, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i:
- Fynd i'r afael â rhwystrau masnachu posibl o fewn y DG drwy gyd-weithredu, defnyddio deialog a sicrhau caniatâd yr holl weinyddiaethau.
- Blaenoriaethu'r gwaith o ddatblygu Fframweithiau Cyffredin lle credir bod angen dull ar y cyd, a'i gwneud yn glir na fydd meysydd a gwmpesir gan fframweithiau cyffredin yn ddarostyngedig i’r egwyddorion sy’n pennu mynediad i'r farchnad yn y Mesur.
- Cynnwys ystod ehangach o eithriadau i’r egwyddorion sy’n pennu mynediad i'r farchnad, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw sicrhau mynediad i'r farchnad yn effeithio ar allu'r sefydliadau datganoledig i fynd ar drywydd eu nodau polisi eu hunain.
- Gwneud yn siŵr bod gweinidogion y DG yn sicrhau cydsyniad y sefydliadau datganoledig cyn newid manylion y ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei chyflwyno.
- Ailystyried y pwerau cymorth ariannol sydd yn y Mesur. Dylid unai esbonio a chyfiawnhau pwrpas a’r hyn a gwmpesir gan y pwerau gwario newydd, neu dylid eu dileu o’r Mesur. Dylai unrhyw bwerau newydd dros wariant gael eu craffu yn ddigonol er mwyn asesu eu goblygiadau ar gyfer y trefniannau cyllido presennol, ac o ran disodli cronfeydd strwythurol yr UE gyda Chronfa Ffyniant a Rennir. Nid yw cynnwys y pwerau cyllid newydd yma yn y Mesur Marchnad Fewnol y ffordd orau o sicrhau fod yr elfennau pwysig hyn o gyfundrefn wariant cyhoeddus y DG ar ôl Brexit yn cael eu craffu’n briodol.
Dywedodd Yr Athro Nicola McEwen, o Brifysgol Caeredin:
"Bydd Mesur Marchnad Fewnol y DG yn tanseilio diben datganoli yn sylweddol: sef galluogi'r gwledydd datganoledig i ddeddfu yn unol â'u hanghenion lleol a'u dewisiadau gwleidyddol eu hunain.
"Drwy beri ansicrwydd ynghylch pwerau gwario newydd Llywodraeth y DG yn y meysydd datganoledig, a thrwy gyfyngu ar allu y llywodraethau datganoledig i ddilyn eu trywydd polisi eu hunain, mae’r Mesur yn fwy tebygol o danseilio yr undeb yn hytrach na’i chryfhau, a chreu'r gofod ar gyfer gwrthdaro gwleidyddol, anniddigrwydd a rhwyg yn y berthynas rynglywodraethol."
Ychwanegodd Yr Athro Dan Wincott, Prifysgol Caerdydd:
"Gyda'r berthynas rhwng San Steffan ar yr un llaw, a Chaerdydd a Chaeredin ar y llaw arall, mor gecrus ag y bu hi erioed, mae'n amlwg ei bod hi’n werth ystyried dull mwy cydsyniol er mwyn penderfynu sut i reoleiddio Marchnad Fewnol y DG. Mae'r Mesur yn cael ei weld gan weinidogion y gwledydd datganoledig fel ymgais i gipio pŵer, mae’n hynod annhebygol o sicrhau cydsyniad deddfwriaethol, ac mae perygl y bydd yn ansefydlogi trefniant tiriogaethol cyfansoddiad y DG.
"Nid ydym wedi ein darbwyllo fod angen y Mesur hwn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, o ddiwygio’r Mesur yn sylweddol, gellid dechrau’r gwaith o atgyweirio’r difrod sydd eisoes wedi’i wneud, drwy ymgorffori egwyddorion cydsyniad a chydweithredu o fewn y broses o lywodraethu marchnad fewnol y DG. Mae Llywodraeth Cymru, er enghraifft, wedi cynnig gwelliannau sydd yn dileu’r pwerau cymorth ariannol newydd arfaethedig a sicrhau na fyddai cyfrifoldeb dros ddarparu cymorthdaliadau yn cael ei neilltuo i Lywodraeth y DG, gan olygu na fyddai’r ddeddfwriaeth Marchnad Fewnol yn ddeddfiad gwarchodedig. Mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion a allai leihau effeithiau andwyol y Mesur a helpu i ail-feithrin y berthynas rhwng llywodraethau’r DG."