iLEGO 2020
16 Hydref 2020
Mae ymarferwyr o’r byd diwydiannol a’r byd academaidd wedi rhannu gwybodaeth ac arbenigedd am werth modelau busnes cylchol yng ngweithdy Arloesedd mewn Mentrau Di-wastraff a Gweithrediadau Gwyrdd (iLEGO) Ysgol Busnes Caerdydd ar 9 Medi 2020.
Gyda 260 o gofrestriadau, y gweithdy eleni - y pedwerydd o’i fath - oedd yr un mwyaf poblogaidd hyd yma ac fe’i cynhaliwyd am y tro cyntaf yn rhithwir ar Zoom.
Cafodd cyfranogwyr o’r byd academaidd, byd diwydiant a’r llywodraeth eu croesawu gan yr Athro Calvin Jones, Dirprwy Ddeon yn Ysgol Busnes Caerdydd, a bwysleisiodd bwysigrwydd y digwyddiad i’r Ysgol nid yn unig o ran ymchwil ond oherwydd ei gysylltiadau â chenhadaeth unigryw sydd â Gwerth Cyhoeddus.
Digwyddiad Alarch Du
Unwaith bod y digwyddiad wedi dechrau’n ffurfiol, rhoddodd Joseph Sarkis, Athro Gweithrediadau a Rheoli Amgylcheddol yn Sefydliad Polytechnig Worcester, Massachusetts, brif anerchiad iLEGO.
Gan ystyried goblygiadau’r pandemig byd-eang parhaus, rhoddodd yr Athro Sarkis brif gyflwyniad am a all egwyddorion economi gylchol helpu i ymateb i ddigwyddiad alarch du sy’n peri aflonyddwch cymdeithasol ac economaidd, a helpu i adfer ar ei ôl.
Esboniodd yr Athro Sarkis fod natur fyd-eang argyfwng COVID-19, wrth iddo symud o wahanol ardaloedd, yn dadorchuddio gwendidau’r gadwyn gyflenwi, a sut gellid gwella’i gwydnwch trwy ei gwneud yn fwy lleol ac yn ystwyth a thrwy ddigideiddio a thechnoleg.
Fodd bynnag, roedd yn gyflym i ychwanegu pwysigrwydd ystyried y goblygiadau anfwriadol posibl y gellid eu hachosi o ganlyniad a rhoddodd enghreifftiau o effaith bosibl symud ymlaen o globaleiddio i leoleiddio.
Gorffennodd trwy ein hatgoffa i fod yn fwy trugarog. “Gadewch i ni beidio â ffugio anwybodaeth petai hyn yn digwydd eto; yn hytrach, mae angen i ni ddysgu o’r profiad hwn.”
Nesaf symudwyd trafodaethau ymlaen gan Dr Adam Read, Cyfarwyddwr Materion Allanol yn SUEZ Recycling and Recovery, i sôn am rôl cwmni rheoli gwastraff yn yr economi gylchol.
Mynnodd ar yr angen i ailystyried ein perthynas â phrynu ‘pethau’, gan nad ailgylchu yn unig yw’r ateb. “Nid rheoli gwastraff fydd yr ateb yn y dyfodol; yr economi gylchol fydd hynny,” haerodd Dr Read.
Gan barhau â’r ffocws hwn ar arfer, arweiniodd Ann Beavis, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy yn Crown Workspace, y sesiwn gychwynnol i’r egwyl goffi rithwir trwy amlinellu sut gellir cyflwyno egwyddorion yr economi gylchol i’r gweithle.
Rhannodd hi enghreifftiau o’i gweithle hi, a sut mae eu model busnes yn helpu i newid y canfyddiad o wastraff yn y pen draw.
Yn sesiwn y prynhawn, rhannodd Mark Thompson, Rheolwr Gyfarwyddwr Techlan Ltd, wersi a ddysgwyd wrth reoli busnes ailgylchu economi gylchol.
Daeth Eoin Bailey, Rheolwr Arloesedd yn Celsa Steel UK, â’r cyflwyniadau ffurfiol i ben gyda’i drafodaeth am y prosesau sydd ynghlwm wrth roi cadwyni cyflenwi economi gylchol ar waith, o ddefnyddio i adfywio.
Fe siaradodd am atebion dylunio strategol ar gyfer datblygiad economaidd adferol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o gylchoedd bywyd llawn.
Dadlau a thrafod
- Meddai Maneesh Kumar, Athro mewn Gweithrediadau a Gwasanaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd iLEGO: “Gellir priodoli rhan helaeth o lwyddiant iLEGO i’r gwaith ymchwil gymhwysol a gynhaliwyd gan ein His-adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yma yn Ysgol Busnes Caerdydd…”
Hefyd am y tro cyntaf, roedd y gweithdy’n rhan o eLRN 2020, cynhadledd rithwir tri diwrnod a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth y DU.
Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Uwch-ddarlithydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd a Chyd-gadeirydd iLEGO: “Roedd y penderfyniad i integreiddio iLEGO ag eLRN am y tro cyntaf yn un pwysig. Trwy wneud hynny, daethpwyd â synergeddau ychwanegol i drafodaeth a oedd eisoes yn fywiog am gadwyni cyflenwi economi gylchol a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU...”
Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth banel a oedd yn cynnwys holl siaradwyr y digwyddiad. Ynghyd â’u cyflwyniadau, roedd hyn yn cynnwys aelodau’r panel yn rhannu eu barn ar y canlynol:
- Sut gall modelau economi gylchol alluogi cadwyni cyflenwi i fod yn wyrddach ac yn fwy gwydn yn ystod cyfnod adfer economaidd ar ôl Covid-19?
- Beth yw eich barn chi ar rôl ‘arloesedd trwy bartneriaethau’ ar gyfer rhoi modelau busnes cylchol ar waith?’
Gan ganolbwyntio ar y pandemig byd-eang parhaus, gwnaeth siaradwyr sylwadau hefyd ar yr isod:
- Sut mae cwmnïau â modelau busnes cylchol arweiniol wedi llwyddo i ymateb i argyfwng COVID-19?
- Pa mor hanfodol yw rhoi modelau busnes cylchol ar waith yn effeithiol pan fydd busnesau’n dychwelyd i’r ‘normal newydd’ ar ôl COVID-19?
Meddai Dr Adam Read, Cyfarwyddwr Materion Allanol, SUEZ Recycling and Recovery: “Roeddwn yn mwynhau’n fawr y cymysgedd amrywiol o gyfranogwyr a phanelwyr yn y digwyddiad hwn, a arweiniodd at drafodaeth a dadlau ysgogol...”
Trefnwyd iLEGO 2020 gan yr Athro Maneesh Kumar, Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Nadine Leder a’r Tîm Addysg Gweithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd.