Ewch i’r prif gynnwys

Water at the centre of new architecture projects

14 Hydref 2020

Capture architecture projects (1)
Lluniad o dirlun Dyffryn Elan, rhan o brosiect grŵp eleni.

Eleni eto, bu myfyrwyr o'r Ysgol Bensaernïaeth, o dan oruchwyliaeth Dr Marga Munar Bauza, yn llunio'u prosiect terfynol ar thema dŵr croyw yn Nghwm Elan.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, heriodd Dr Marga Munar Bauza ei myfyrwyr i greu prosiectau arloesol yn seiliedig ar ddŵr croyw a'i werth cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.

Mae dŵr croyw yn elfen sy’n diffinio ac effeithio ein bywydau; fodd bynnag, mae hefyd yn ein cynorthwyo i ymafael a chyrraedd cysyniadau haniaethol sy’n llywio ein pensaernïaeth.

Dr Marga Munar Bauza Architect-Urbanist
PhD, ARB, FRSA, AoU
Lecturer

Ymdriniwyd â dŵr fel offeryn ar gyfer llif, cysylltu a chyfathrebu. Bu'r prosiectau'n rhoi trosolwg manwl o faterion cymdeithasol a daearegol sy'n gysylltiedig â dŵr ac yn ystyried heriau pwysig fel llifogydd ac ansawdd dŵr yng Nghwm Elan. Cafodd pryderon lleol a byd-eang ynghylch darparu dŵr eu cydnabod hefyd gan y myfyrwyr, gan gynnwys yr argaeau a adeiladwyd yng Nghwm Elan yn y 19eg ganrif er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham.

Dywed Dr Marga Munar Bauza: 'Mae dŵr yn fan cychwyn gwych ar gyfer prosiect gan fod modd ymgysylltu ag ef o sawl safbwynt gwahanol ac am ei fod yn beth gwir a chymhleth. Rydych chi'n gwybod ble mae'r man cychwyn ond wyddoch chi ddim i ble bydd y gwaith ymchwil a dylunio yn mynd â chi.'

Bu rhai o'r prosiectau hefyd yn ystyried manteision dŵr o ran ansawdd bywyd a'r ôl troed dŵr sy'n cael ei ymgorffori mewn gweithgareddau pob dydd. Dywed Cristina Arranz, un o'r myfyrwyr eleni: 'Roedd fy ngwaith ymchwil i'n canolbwyntio ar yr ôl troed dŵr ac un o'r pethau wnaeth fy synnu oedd faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer popeth yn ein bywydau pob dydd: bwyd, dillad, glanhau ...'

Capture Architecture project (2)
Eglurhad o ddylanwad dŵr ar dirwedd, rhan o brosiect grŵp eleni.

Cafodd y myfyrwyr gymorth gan fyfyrwyr PhD o grŵp gyrfa gynnar Sefydliad, sef Haydee Martinez Zavala, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Beirianneg, a Maria Magdalena Warter, myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, er mwyn dod i ddeall materion dŵr yn well.

Dywed Maria Magdalena Warter: 'Roedd hi'n ddiddorol gweld y gwahanol ddulliau roedd y myfyrwyr yn eu defnyddio i ymgorffori dŵr a'r dirwedd yn eu dyluniadau.  Roedden nhw'n meddwl am agweddau o ddŵr nad wyf i braidd yn meddwl amdanyn nhw yn fy ngwaith. Roeddwn i'n falch o gael helpu ac fe greodd esblygiad y prosiectau o'r dechrau i'r diwedd gryn argraff arnaf i.'

Cafodd y myfyrwyr fynediad hefyd i Gwrs Ar-lein Agored Enfawr y Sefydliad ynghylch Her Diogelwch Dŵr Byd-eang.

Dywed Clementine de Geoffroy: 'Roedd y dosbarthiadau ar-lein yn caniatáu i mi fod yn fwy ymwybodol o'r gwahanol faterion dŵr sy’n codi o amgylch y byd. O effaith yr hinsawdd ar wareiddiad i ôl troed dŵr gwahanol ddiwydiannau. Roedd yn gyfle da i agor ein meddyliau i faterion byd-eang.'

Mae'r prosiectau hyn yn dangos bod modd mynd i'r afael â materion dŵr o wahanol safbwyntiau a defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd o ddisgyblaethau gwahanol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chris Hubbard neu Marga Munar Bauza.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.