Cymrodoriaeth ôl-ddoethurol i gyn-fyfyriwr
14 Hydref 2020
Mae’r Dr Laura Reynolds, un o gyfranogion ymchwil Uned Ymchwil Economaidd Cymru Prifysgol Caerdydd, wedi ennill Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol o dan nawdd Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol am 12 mis o fis Ionawr 2021.
Diben cymrodoriaethau ôl-ddoethurol yw helpu’r rhai sydd newydd ddechrau gyrfa ym maes ymchwil i ennill eu plwyf trwy roi’r amser a’r adnoddau i gyhoeddi canfyddiadau, lledaenu’r canfyddiadau hynny a chreu effaith y tu hwnt i’r byd academaidd.
Bydd y Dr Reynolds yn ychwanegu at yr ymchwil a gynhaliodd ar gyfer ei doethuriaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd yn 2019, gan astudio’r modd mae budd-ddalwyr yn helpu i greu a chyfleu brand i ddinasoedd ac ystyried pam mae’r gweithgareddau ymgysylltu cyfredol yn cryfhau cysylltiadau grym ymhlith grwpiau sy’n cystadlu â’i gilydd.
Yn ystod 12 mis ei chymrodoriaeth, bydd yn gweithio ochr yn ochr â'i goruchwylwyr PhD, y Dr Nicole Koenig-Lewis, yr Athro Ken Peattie a’r Dr Heike Doering, i ddechrau cyhoeddi ei gwaith a datblygu effaith gymdeithasol a fydd o gymorth i garfanau wedi’u tangynrychioli wrth geisio hybu ardaloedd lle maen nhw’n byw, yn gweithio ac yn ymweld.
O dan fentoriaeth yr Athro Max Munday, bydd y Dr Reynolds yn ehangu effeithiau cymdeithasol a pholisi ei hymchwil trwy gydweithio â Banc Datblygu Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd.
Meddai’r Dr Reynolds: “Mae cymrodoriaeth ôl-ddoethurol y cyngor yn rhoi cyfle unigryw i dreulio 12 mis er mwyn canolbwyntio ar ganlyniadau’r ymchwil ar gyfer fy noethuriaeth ac ennill fy mhlwyf yn ymchwilydd annibynnol...”
At hynny, mae’r gymrodoriaeth yn cynnig cyfle i ymweld â’r Institute of Place Management, Prifysgol Fetropolitan Manceinion, am fis. Mae’r sefydliad hwnnw’n un blaenllaw ledled y byd o ran ymchwil i reoli lleoedd. Trwy gydweithio â'r tîm a'i bartneriaid yn y byd diwydiannol am fis, bydd y Dr Reynolds yn gallu lledaenu canfyddiadau ymchwil ei doethuriaeth a chryfhau rhwydweithiau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
Ers ennill PhD Marchnata, mae’r Dr Reynolds wedi treulio chwe mis yn ddadansoddwr polisïau a data yn y City Regional Economic Development Institute, Prifysgol Birmingham. Dychwelodd i Ysgol Busnes Caerdydd fis Ebrill 2019 i fod yn un o gyfranogion ymchwil Uned Ymchwil Economaidd Cymru. Ar y cyd â thîm bychan o ymchwilwyr yno, roedd yn dadansoddi economïau rhanbarthau er lles cwmnïau Cymru yn ogystal â’r sectorau gwladol a gwirfoddol.
Daw cyfnod cymrodoriaeth y Dr Reynolds i ben fis Rhagfyr 2021.
“At hynny, bydd y gymrodoriaeth yn cyfnerthu ein cysylltiadau â Banc Datblygu Cymru, sy'n bartner allweddol i'r uned a'r ysgol ym maes ymchwil.”
Dyma ragor am Gymrodoriaethau ESRC yn Rhaglen Hyfforddi Doethurol Cymru.