Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn dangos nad yw oedolion agored i niwed yn nalfa'r heddlu yn cael cefnogaeth hanfodol

13 Hydref 2020

Person in handcuffs

Mae adroddiad yn dangos y gallai miloedd o gyfweliadau gwirfoddol neu yn y ddalfa gyda phobl sy'n agored i niwed fod wedi'u cynnal heb 'oedolyn priodol' yn brsennol.

Cafodd There to Help 3 ei ysgrifennu gan Dr Roxanna Dehaghani o Brifysgol Caerdydd a Chris Bath, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Cenedlaethol yr Oedolion Priodol (NAAN).

Mae Codau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) yn nodi y dylai pobl agored i niwed, gan gynnwys y rhai sydd â salwch meddwl, anabledd dysgu, anaf i'r ymennydd neu gyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth, fod ag oedolyn priodol yn bresennol pan maent yn cael eu cymryd i'r ddalfa.

Gall diffyg cefnogaeth o'r fath olygu y gallai pobl â chyflyrau meddyliol sy’n cael eu cyfweld gan yr heddlu yn wirfoddol neu yn y ddalfa roi tystiolaeth annibynadwy.

Mae cyfweliadau clinigol wedi dangos yn flaenorol bod gan 39% o’r oedolion yn nalfa'r heddlu anhwylder meddwl, gan gynnwys anableddau iechyd meddwl a dysgu. Mae’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o ddata gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2018/19 ac mae’n awgrymu y gallai oedolion priodol fod wedi bod yn ofynnol ar dros 384,000 o achlysuron yn ystod y cyfnod hwn.

Daeth i’r amlwg i ymchwilwyr yn 2018/19 mai dim ond mewn 6.2% o achosion y cofnodwyd bod angen oedolyn priodol mewn 831,000 o gyfweliadau gydag oedolion oedd wedi’u cymryd i’r ddalfa, a dim ond mewn 3.5% o achosion mewn dros 150,000 o gyfweliadau gwirfoddol y cofnodwyd bod angen oedolyn priodol. Cofnodwyd bod angen oedolyn priodol ar 57,000 o achlysuron, gan olygu y gallai oedolion agored i niwed oedd yn bodloni'r meini prawf fod heb fod wedi cael y gefnogaeth orfodol ar 327,000 o achlysuron.

Dywedodd Dr Roxanna Dehaghani, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, sydd wedi treulio chwe mis yn arsylwi yn ystafelloedd dalfa’r heddlu: “Mae oedolion priodol yn hwyluso pobl sy’n agored i niwed i gymryd rhan yn effeithiol ac yn sicrhau bod cam cyntaf - ac yn aml yr unig gam - mewn achosion troseddol yn cael ei gynnal mewn modd teg."

Er gwaethaf pwysigrwydd y cam diogelwch hwn, mae'r nifer isel sy'n manteisio arno yn parhau’n isel, ac mae hynny’n pryder. Rhaid gwneud llawer yn well er mwyn sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael y gefnogaeth y mae ganddynt hawl gyfreithiol i’w derbyn.

Dr Roxanna Dehaghani Senior Lecturer in Law

Dywedodd Chris Bath, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Oedolion Priodol: "Mae gan swyddogion heddlu ar lawr gwlad waith anhygoel o anodd. Fel mater o drefn, maent yn haeddu cyfarpar dibynadwy er mwyn gweithredu'r rheolau cymhleth am bobl sy'n agored i niwed – ac i gynlluniau oedolion priodol annibynnol fod ar gael pan fo angen. Y tu hwnt i hynny, mae cyfran enfawr yr oedolion agored i niwed ymhlith y rhai dan amheuaeth yn codi cwestiynau ynghylch a ydym yn gofyn i'r heddlu ymdopi â methiannau eraill yn y broses."

Mae'r broses o nodi pwy yw’r bobl o dan amheuaeth sy'n agored i niwed wedi gwella'n araf, o fod o dan 3% yn 2012/13, i tua 6% yn 2017/18. Ym mis Awst 2018, ailddiffiniodd y Swyddfa Gartref ‘agored i niwed’ yn sylweddol a chyflwynodd ofynion newydd ar yr heddlu. Yn dilyn hyn, ni wnaeth cyfraddau yn y ddalfa gynyddu'n sylweddol, a bu gostyngiad yn y cyfraddau mewn cyfweliadau gwirfoddol.

Gan ddefnyddio data a rennir gan wasanaeth Cyswllt ac Dargyfeirio (L&D) GIG Lloegr, sy'n nodi pobl ag anawsterau iechyd meddwl, anabledd dysgu, neu wendidau eraill yn nalfa'r heddlu, gwelodd ymchwilwyr bod yr heddluoedd sydd â mynediad at wasanaethau L&D wedi cofnodi cyfraddau uwch o’r angen am oedolion priodol, ond ni chafodd pedwar o bob pump cleient L&D oedolyn priodol, ac roedd gan 68% o’r rhain anhawster iechyd meddwl ar y pryd.

Mae'r adroddiad llawn, There to Help, 3, a gyhoeddwyd gan NAAN ac a gomisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref, ar gael i'w weld yma.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau gwe yr Ysgol.