Cerddoriaeth fyw yn dychwelyd i'r Ysgol Cerddoriaeth
13 Hydref 2020
Dychwelodd y Gerddorfa Symffoni i'r Ysgol Cerddoriaeth y penwythnos hwn am ddau ddiwrnod o ymarfer dwys.
Roedd yr achlysur llawen yn nodi dychweliad cerddoriaeth fyw i'r adeilad a dechrau'r flwyddyn academaidd.
Dros ddau ddiwrnod, bu'r gerddorfa'n ymarfer Symffoni Rhif 2 Tchaikovsky yn C Leiaf ac Agorawd Helios Nielsen. Ar ôl misoedd o waith cynllunio, doedd hwn ddim yn ymarfer arferol. Y ddau fetr neu fwy rhwng pob chwaraewr oedd yr amlycaf o'r mesurau diogelwch niferus oedd ar waith.
Meddai Mark Eager, arweinydd y gerddorfa: "O'r diwedd, penwythnos llawen o gerddoriaeth fendigedig ym Mhrifysgol Caerdydd, er bod hynny’n sefyllfa ddigon od gyda phellhau cymdeithasol. Roedd y staff a'r myfyrwyr yn ysbrydoledig o obeithiol a chadarnhaol."
Roedd Dr Keith Chapin, y Cyfarwyddwr Perfformio, yn llawn brwdfrydedd. "Gyda cherddoriaeth fyw wedi'i hatal yn llwyr mewn cynifer o lefydd, roedd yn brofiad emosiynol clywed y myfyrwyr yn chwarae. Mae'n ein hatgoffa pa mor bwysig yw cerddoriaeth fyw i bawb, boed amatur neu broffesiynol, myfyriwr neu fel arall.
"Ac er na fyddwn i am weld ymarferion fel hyn yn dod yn norm, roedd yn wych gweld pa mor dda yr addasodd y myfyrwyr i'r sefyllfa. Drwy wrando'n astud, llwyddon nhw i oresgyn y pellter rhyngddyn nhw, gan weithio gyda'i gilydd ac ymuno i greu cyfanwaith persain. Sgiliau cerddoriaeth a bywyd! Beth fwy allen ni ofyn amdano mewn ymarfer?"
Ymarfer y Gerddorfa Symffoni y penwythnos hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o weithgareddau o'r fath. Bydd y misoedd nesaf yn cynnwys penwythnosau ymarfer i ensembles eraill yr Ysgol Cerddoriaeth, yn cynnwys y Côr Siambr a'r Corws Symffoni, yr Ensemble Jazz, Ensemble Lanyi Gorllewin Affrica, Offerynnau Chwyth Symffonig, Ensemble Nogo Abang Gamelan a'r Gerddorfa Siambr. Yn ogystal, bydd yr ensembles niferus dan arweiniad myfyrwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn dechrau ymarfer. Rydym ni'n falch fod bywyd cerddorol bywiog yr Ysgol Cerddoriaeth yn gallu parhau.