Urddo'r Athro Richard Catlow yn farchog
12 Hydref 2020
Cemegydd blaenllaw'n cael ei gydnabod am ei gyfraniad 'rhyfeddol' i ymchwil wyddonol.
Caiff yr Athro Richard Catlow ei urddo’n farchog yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gyfraniadau 'rhyfeddol' ac 'uchel eu heffaith' i ymchwil wyddonol.
Mae'r Athro Catlow, sy'n Athro Cemeg Catalytig a Chyfrifiadurol yn y Brifysgol, yn cael ei gydnabod am ddatblygu dulliau sydd wedi dod yn safonol ar draws y gwyddorau cemegol yn ogystal ag ymrwymiad drwy gydol ei yrfa i arweinyddiaeth effeithiol ar lefel prifysgol, cenedlaethol a byd-eang.
Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd yr Athro Catlow: "Rwyf i'n falch iawn i dderbyn yr anrhydedd hwn yn bersonol a hefyd am y gydnabyddiaeth mae'n ei rhoi i rôl allweddol gwyddoniaeth ac ymchwil wyddonol."
Mae ymchwil yr Athro Catlow'n canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso modelau cyfrifiadurol i gemeg cyflwr soled a deunyddiau.
Mae ei waith wedi cynnig cipolwg ar ddulliau catalyddion diwydiannol mewn cemeg strwythurol a mwynoleg ac a gaiff eu defnyddio'n rheolaidd bellach ar draws y diwydiant.
Graddiodd yr Athro Catlow gyda BA mewn Cemeg o Brifysgol Rhydychen yn 1970 cyn sicrhau PhD mewn Cemeg o'r un sefydliad yn 1973, lle ymgymerodd â’i waith yn Labordai Ynni Atomig y DU yn Harwell, Swydd Rhydychen.
Dechreuodd ei berthynas hir gyda Choleg Prifysgol Llundain yn 1976 pan ddaeth yn Ddarlithydd Prifysgol mewn Cemeg, ac yn ddiweddarach yn Bennaeth yr Adran Cemeg a Deon y Gyfadran Mathemateg a Gwyddorau Ffisegol yn 2007.
Mae hefyd wedi dal swyddi yn y Sefydliad Brenhinol, lle'r oedd yn gyfranogwr gweithredol yn ehangu apêl gwyddoniaeth i'r cyhoedd, yn ogystal â Phrifysgol Keele a Labordy Daresbury.
Ymunodd yr Athro Catlow â Phrifysgol Caerdydd yn 2015 gan ymuno â chydweithwyr hirsefydlog yn Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Yn 2013, cydsefydlodd yr Athro Catlow Ganolfan Catalysis y DU yn Harwell, ochr yn ochr â'r Athro Graham Hutchings o'r Brifysgol, sydd ers hynny wedi dod â gwyddonwyr catalytig at ei gilydd o dros 40 o sefydliadau a diwydiannau cyfranogol i ymdrin â phroblemau yn y byd go iawn.
Etholwyd yr Athro Catlow yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 2004 ac ers 2016 mae wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Tramor ac Is-Lywydd y sefydliad, gan gynnal proffil uchel ar gyfer gwyddoniaeth y DU yn fyd-eang.
Mae wedi bod yn arbennig o gryf ei gefnogaeth i feithrin gallu yn y byd sy'n datblygu, yn enwedig Affrica Is-Sahara, a chydlynodd un o raglenni cyntaf y Gymdeithas Frenhinol yn Ne Affrica. Bu'n ymwneud hefyd â rhaglenni dilynol yn Ghana, Botswana a Namibia.
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i'r Athro Catlow ar dderbyn yr anrhydedd sylweddol hwn.
"Mae'n arbennig o braf gweld gwaith arloesol yr Athro Catlow yn cael ei gydnabod ochr yn ochr â'i ymrwymiad hirsefydlog i ddatblygu gwybodaeth wyddonol yma yn y DU ac ar draws y byd.
"Ynghyd â chydweithwyr yma ym Mhrifysgol Caerdydd mae wedi creu rhwydwaith o wyddonwyr nodedig ac arbenigwyr diwydiant sydd ar y blaen gydag ymchwil arloesol mewn catalysis a chymhwyso'r wybodaeth hon i ymdrin â phroblemau sy'n ein hwynebu ni yn y byd go iawn heddiw."