Ewch i’r prif gynnwys

Pecyn cymorth Ysgol yr Ieithoedd Modern ar gyfer lledaenu gwybodaeth ieithyddol

9 Hydref 2020

Mae arbenigedd Ysgol yr Ieithoedd Modern yn helpu staff cyfatebol prifysgolion eraill i ystyried ffyrdd newydd o ddysgu ieithoedd modern.

Yn 2020, mae’r deyrnas hon yn fwy amryfal nag erioed o safbwynt diwylliannol ac ieithyddol ac, o ganlyniad, mae galw mawr am raddedigion ieithoedd modern mewn amryw sectorau.

Gan fod llai a llai o ddisgyblion yn astudio ieithoedd modern ar gyfer TGAU a’r Safon Uwch bob blwyddyn, fodd bynnag, mae’n anodd denu myfyrwyr i raglenni ieithoedd modern. Yn sgîl hynny, mae sawl prifysgol yn edrych ar ei chwrícwlwm i ofyn a yw ei chyrsiau’n meithrin y cymwyseddau, y medrau a’r cyfleoedd pwysig y bydd gradd yn yr ieithoedd modern yn eu cynnig.

Dyma’r ymateb, pecyn cymorth Re)Creating Modern Languages: Conversations about the Curriculum in UK Higher Education, cynnyrch prosiect mae rhai o academyddion Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Rhydychen wedi’i arwain ar y cyd ag arbenigwyr ledled y deyrnas.

Mae’r pecyn yn cynnig fframweithiau ar gyfer ystyried a threfnu proses newid gynhwysfawr yn y cwrícwlwm yn sgîl profiad cyfranwyr sydd newydd ddod trwy broses o’r fath neu wrthi’n ei rhoi ar waith. Mae’r pecyn yn cyflwyno arferion ardderchog ac arloesol mewn modiwlau ac yn cynnig syniadau ar gyfer ailystyried sut y gall adrannau ieithoedd wella cyrsiau er lles eu myfyrwyr.

Roedd academyddion Ysgol yr Ieithoedd Modern mewn sefyllfa dda i helpu i lunio’r pecyn ar ôl newid eu cwrícwlwm yn fawr dros y blynyddoedd diwethaf hyn.

Meddai’r Prif Ymchwilydd, y Dr Liz Wren Owens, “Dechreuon ni newid ein cwrícwlwm yn fawr a’i gyflwyno ar ei newydd wedd rhwng 2016 a’r llynedd ac, felly,mae gyda ni brofiad diweddar iawn o newid. Fe roeson ni’r agwedd drawswladol wrth wraidd ein cwrícwlwm, gan ystyried datblygiad amryw ieithoedd a diwylliannau cenedlaethol o ganlyniad i ddylanwad ieithoedd a diwylliannau eraill. Ar ben hynny, defnyddion ni ddulliau arloesol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth gan gynnwys ein Modiwl Addysgu Myfyrwyr a’n modiwl Inside Out, a gyflwynir yn y carchar i ddosbarth cymysg o israddedigion a charcharorion.”

Mae Ieithoedd Modern yn faes pwysig ac unigryw sy’n cyfuno cymwyseddau ieithyddol, meddwl yn feirniadol a’r gallu i drin a thrafod diwylliannau ac, felly, rhaid inni gydweithio i ofalu y bydd cyrsiau’n addas ar gyfer y dyfodol yn ein prifysgolion.”

Mae’r pecyn wedi’i lunio’n rhan o brosiect Amlieithrwydd Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac mae ar gael trwy wefan Amlieithrwydd Creadigol yn ogystal â chael ei hyrwyddo trwy wefan Cyngor Ieithoedd Modern y Prifysgolion.

Dyma’r rhai yn Ysgol yr Ieithoedd Modern oedd yn ymwneud â’r prosiect: Y Dr Liz Wren Owens, yr Athro Claire Gorrara, Rachel Beaney a’r Dr Joey Whitfield yn ogystal â’u cyn gydweithiwr, yr Athro Rachael Langford.

Rhannu’r stori hon