Myfyriwr o Gaerdydd yn ennill gwobr 'Mwyaf Creadigol' yn y gystadleuaeth Pont Tsieinëeg nodedig.
8 Hydref 2020
Ym mis Medi dyfarnwyd y wobr 'Mwyaf Creadigol' i'r myfyriwr Mandarin Célia Bourhis yn y gystadleuaeth Pont Tsieinëeg o fri rhyngwladol.
Cystadleuaeth iaith Tsieinëeg flynyddol yw Pont Tsieinëeg lle mae myfyrwyr rhwng 18 a 30 yn profi eu hyfedredd mewn Mandarin ac yn dangos eu gwybodaeth ddiwylliannol am Tsieina. Caiff y gystadleuaeth ei threfnu gan Bencadlys Sefydliad Confucius ac mae'n cynnig llwyfan ar gyfer cyfnewid diwylliannol ac addysgol byd-eang.
Darlledwyd rownd derfynol ranbarthol y DU eleni, a gynhelir fel arfer yn Llundain, ar-lein am y tro cyntaf yn ei 19 mlynedd i dros 1000 o wylwyr ar Zoom, Facebook a Youtube. Roedd deg myfyriwr yn cynrychioli Prifysgolion Prydain yn cymryd rhan, a bydd pedwar o'u plith yn mynd ymlaen i gynrychioli'r DU mewn cystadlaethau byd-eang.
Rhoddodd Célia Bourhis, yn cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y gystadleuaeth, berfformiad rhagorol a dyfarnwyd y wobr 'Mwyaf Creadigol' iddi. Treuliodd Célia, a gafodd ei mentora gan y tiwtoriaid yn Sefydliad Confucius Caerdydd Qu Fan a Yu Tian, bythefnos ddwys yn paratoi fideo dau funud am ddysgu Tsieinëeg, araith dri munud mewn Mandarin, 160 o gwestiynau'n ymwneud â diwylliant, rheolau iaith ac ymadroddion Tsieinëeg, a pherfformiad artistig. Dywedodd Qu Fan:
"Mae Célia yn ferch garedig a diwyd sy'n hoffi Tsieina'n fawr iawn. Fel y dywedodd hi ei hun: Mae mwy yn debyg rhyngom nag sy’n wahanol a gall dysgu Tsieinëeg ei helpu i ddeall y byd cyfan yn well."
Ar ôl cael ei hysbrydoli gan gywreinrwydd i ddysgu a deall diwylliant cwbl wahanol i'w un hi, mae Célia wedi bod yn dysgu Tsieinëeg ers pedair blynedd. Ar ôl mynychu dosbarthiadau nos yn Nantes wrth astudio am ei gradd yn Ffrainc, parhaodd â'i thaith i ddysgu’r iaith gyda dosbarthiadau Mandarin Ieithoedd i Bawb wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Doedd cystadlu yn erbyn myfyrwyr eraill oedd â Tsieinëeg yn brif bwnc ddim yn codi braw ar Célia, oedd yn gallu cyflwyno araith yn hyderus am ei phrofiad o ddefnyddio iaith arwyddion Tsieinëeg wrth deithio yn Tsieina a pherfformio cân o'r enw ‘Ming Tian Ni Hao’ 明天你好 (Helo Yfory). Dewisodd y gân am ei bod yn 'ymwneud â bod yn ddewr i ymladd y dyfodol'.
Wrth feddwl am ei dyfodol ei hun, mae Tsieinëeg yn sicr yn dal i fod yn rhan o gynlluniau Célia. Mae'n bwriadu defnyddio ei sgiliau i ddysgu yn Tsieina:
"Ar hyn o bryd rwy'n astudio gradd Meistr ac yn dysgu sut i ddysgu Ffrangeg i bobl dramor. Es i Tsieina am ddau fis haf y llynedd, gan ymweld â ffrindiau a theithio o gwmpas, a phan fyddaf i'n gallu mynd yn ôl, byddaf i'n dysgu yno."
Gofynnon ni i Célia sôn am ei phrofiad - darllen cyfweliad.