Bil Marchnad Fewnol Disgwylir ‘effaith sylweddol a chanoli’
8 Hydref 2020
Wrth i Fil Marchnad Fewnol dadleuol y DG gychwyn ar ei daith drwy Dŷ’r Arglwyddi, mae adroddiad newydd i’r Senedd gan ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn amlygu sut gallai’r Bil wneud newidiadau sylweddol i gyfansoddiad tiriogaethol y DG.
Mae’r Bil yn disodli’r fframwaith o reolau’r UE ar gyfer creu marchnad fewnol ar draws yr Undeb Ewropeaidd, gyda rheolau domestig i sicrhau ‘mynediad at y farchnad’ ar draws y DG. Tan y Bil hwn, nid oedd diffiniad cyfreithiol clir o Farchnad fewnol ddomestig. Mae’r Bil yn cynnig fframwaith cyfreithiol newydd ar ei chyfer, ac yn rhoi cyfyngiadau ymarferol sylweddol ar feysydd lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli – llawer mwy na’r rheiny a osodir o dan gyfraith yr UE.
O dan y Bil, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o achosion penodol, unwaith mae safonau rheoleiddiol lleol ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol wedi’u bodloni yn un rhan o’r DG, ni all unrhyw ran arall o’r DG fynnu eu safonau gwahanol neu uwch eu hun.
Mae’r Bil hefyd yn cadw polisi Cymorth Gwladwriaethol i Lywodraeth y DG, ac yn rhoi pwerau ariannol newydd iddi dros feysydd lle mae cymhwysedd polisïau wedi’i ddatganoli.
Bil Marchnad Fewnol y DG yw darn mawr cyntaf gweinyddiaeth Johnson o ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu datganoli. Os caiff ei basio’n gyfraith ar ei ffurf bresennol, bydd yn cael effaith sylweddol ar gydbwysedd cyfansoddiad tiriogaethol y DG, ac yn ei ganoli.