Adroddiad newydd yn datgelu diffyg cymorth iechyd meddwl ar gyfer cleifion clefyd y croen
5 Hydref 2020
Yn ôl adroddiad newydd gan y Grŵp Holl-bleidiol Seneddol ar gyfer Clefydau’r Croen, mae mwyafrif llethol cleifion clefyd y croen yn teimlo bod eu cyflwr yn effeithio ar eu hiechyd meddwl ac mae llawer yn cael trafferth cael triniaeth briodol.
Cymerodd bum cant o gleifion ag amrywiaeth o gyflyrau croen ran mewn arolwg ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni, ynghyd â 100 o glinigwyr ac 16 o sefydliadau ym maes dermatoleg.
Roedd 98% o’r ymatebwyr yn teimlo bod eu cyflwr yn effeithio ar eu lles emosiynol a seicolegol - ac eto dim ond 18% oedd wedi cael cymorth seicolegol.
Ymhlith y rhai a arolygwyd, nid oedd dros hanner (54%) ddim yn sylweddoli bod gwasanaethau seicodermatoleg arbenigol ar gael i gleifion croen. Ac roedd pob un o'r sefydliadau'n teimlo bod darpariaeth iechyd meddwl y GIG ar gyfer cleifion croen yn "wael" (80%) neu’n "wael iawn" (20%).
Dywedodd Andrew Thompson, seicolegydd clinigol ymgynghorol ac athro anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o gynghorwyr y GIG i bwyllgor arbenigol y grŵp: "Mae cyflyrau’r croen yn anhygoel o gyffredin ac i lawer o bobl mae’n effeithio ar les - mae rhai cleifion yn rhoi gwybod am symptomau sylweddol o orbryder ac iselder.
"Mae'r canfyddiadau ynghylch diffyg cymorth iechyd meddwl yn peri pryder mawr gan y bydd pandemig Covid-19 wedi gwaethygu problemau iechyd meddwl ymhlith pobl oedd eisoes yn dioddef.
"Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio ymchwil sy'n bodoli eisoes a data newydd a gesglir gan y grŵp i roi set glir o argymhellion i wleidyddion, comisiynwyr a darparwyr y GIG ar gyfer mynd i'r afael â'r lefel druenus o wasanaethau a ddarperir yn y maes hwn."
Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill:
- Dywedodd 93% eu bod wedi cael effaith negyddol ar eu hunan-barch a dywedodd 87% ei fod wedi cael effaith negyddol ar eu bywyd cymdeithasol neu eu gallu i wneud gweithgareddau chwaraeon;
- Dywedodd 73% eu bod wedi cael effaith negyddol ar berthnasoedd agos a dywedodd 69% ei fod wedi cael effaith negyddol ar eu gwaith neu eu haddysg;
- Dywedodd 5% eu bod wedi meddwl am ladd eu hunain;
- Nododd 100% o'r 27 o blant a ymatebodd i'r arolwg fod cyflwr eu croen yn effeithio ar eu lles seicolegol, ac roedd 85% yn teimlo bod ganddynt hunan-barch isel,
- Ymhlith y plant â hunan-barch isel, dywedodd 85% fod hyn yn arbennig o gysylltiedig ag ymgysylltu â chyfoedion yn yr ysgol
Dywedodd un ymatebydd i'r arolwg: "Pan oeddwn yn 19 oed gwaethygodd [yr ecsema] gymaint fel na allwn gymryd rhan mewn bywyd normal mwyach oherwydd y boen... bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'm swydd gan fy mod yn rhy sâl drwy'r amser. Mae fy nghroen yn aml yn rhy boenus i gael perthnasoedd agos neu hyd yn oed gofleidio neu gusanu fy mhartner. Roedd yn rhaid i mi ohirio fy mhriodas gan na allaf ymdopi â'r syniad o’r cyflwr yn gwaethygu’n sydyn ar ddiwrnod fy mhriodas.
"Mae fy ecsema wedi peri i mi ddatblygu teimladau o orbryder ac iselder. Rwyf wedi bod yn yr ysbyty ddwywaith am wythnos oherwydd fy ecsema ac yn 2019 bu'n rhaid i mi fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys chwe gwaith o ganlyniad i achosion o ecsema'r wyneb. Rwyf wedi cael 36 cwrs o wrthfiotigau ar gyfer fy nghroen yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae fy ecsema wedi difetha fy mywyd."
Mae'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad yn cynnwys hyfforddiant seicodermatoleg gorfodol, cynnydd yn nifer yr hyfforddiant dermatoleg, a gwasanaethau seicodermatoleg pwrpasol cynhwysfawr ym mhob rhanbarth o'r DU.
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.