Modelau newydd i ragfynegi lledaeniad COVID-19 yn well
2 Hydref 2020
Gall modelau cyfredol a ddefnyddir i fesur lledaeniad y coronafeirws fod yn gorbwysleisio difrifoldeb y pandemig.
Mae hyn yn ôl grŵp o academyddion a arweinir gan Brifysgol Caerdydd sydd wedi cynhyrchu model mathemategol newydd y maent yn credu sy'n darparu cynrychiolaeth fwy hyblyg a chywir o ledaeniad y feirws drwy’r gymdeithas.
Mae'r dull mwy hyblyg yn golygu y gellir plygio newidynnau ychwanegol i'r modelau yn gymharol rwydd, megis lledaeniad daearyddol pobl ar draws cymunedau a rhanbarthau, pa mor agored i niwed y mae’r gwahanol grwpiau oedran, a hanes meddygol unigolion.
Mae'r model, felly, yn ymgorffori rhywfaint o hap y mae modelau confensiynol yn ei anwybyddu, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar ledaeniad y feirws trwy gylch sefydlog o dueddiad, haint ac adferiad.
Mewn astudiaeth, a gafodd ei grybwyll yr wythnos hon yn The Times ond sydd heb ei chyhoeddi eto, profodd y tîm eu model ar gyfer sawl newidyn allweddol sy'n nodweddu pandemig y coronafeirws.
Canfuwyd mai un o'r paramedrau pwysicaf a allai leihau difrifoldeb y pandemig yn sylweddol yw’r raddfa o wahanu pobl sy'n agored i niwed a phobl 70 oed a hŷn.
"Yr hyn y mae ein model yn ei ddangos yw y gallai ynysu canran gymharol fach o'r boblogaeth leihau nifer y marwolaethau yn yr epidemig yn aruthrol," meddai prif awdur yr astudiaeth yr Athro Anatoly Zhigljavsky, o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd.
Ar ben hynny, dangosodd yr astudiaeth, oherwydd natur a nodweddion amrywiol gwahanol boblogaethau ledled y wlad, yn ogystal ag oedi cyn lledaenu'r feirws trwy'r boblogaeth, y gellir lleihau difrifoldeb y pandemig hefyd.
"Er mwyn mesur y potensial ar gyfer heintio eang, i ymdopi ag ansicrwydd cysylltiedig ac i roi gwybod am ei ostyngiad, mae modelu mwy cywir a chadarn yn ganolog bwysig ar gyfer llunio polisïau," parhaodd yr Athro Zhigljavsky.
"Mae'n bwysig cofio bod modelau yno i gynghori ac nid disodli realiti, ac y dylai unrhyw gamau gael eu cydlynu a’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd cyhoeddus sydd â phrofiad o ddelio ag epidemigau.”
Mae'r tîm bellach yn bwriadu cynnal llawer o wahanol senarios gyda'u model i gael gwell dealltwriaeth o'r sefyllfa bresennol a'r hyn y gellir ei wneud i'w rheoli'n effeithiol.
Roedd y tîm, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, hefyd yn cynnwys academyddion o Brifysgol Nottingham, Prifysgol Rhydychen, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Prifysgol Ffederal Rio de Janeiro, Icon Clinical Research a Phrifysgol Abertawe.