Ymunwch ag ymgyrch Bin Your Butt Hydref 2020
12 Hydref 2020
Mae Partneriaeth Aber Hafren, menter annibynnol a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd, wedi lansio ymgyrch 'Bin Your Butt' yn ddiweddar fel rhan o'i phrif brosiect ar gyfer Arfordir a Môr Di-sbwriel Gwlad yr Haf.
Ar 1 Hydref 2020, cyhoeddodd Partneriaeth Aber Hafren, mewn cydweithrediad ag Arfordir a Môr Di-sbwriel Dorset a Dorset Di-sbwriel eu bod yn lansio ymgyrch Bin Your Butt newydd. Nod yr ymgyrch yw mynd i'r afael ag ymddygiad taflu sbwriel gwrthgymdeithasol drwy atgoffa pobl sy'n ysmygu i ddiffodd a gwaredu eu sigaréts yn gyfrifol, yn hytrach na'u taflu ar lawr.
Mae ein trefi, ein hafonydd a'n moroedd yn aml yn frith o sbwriel sy'n gysylltiedig ag ysmygu. Mewn arolwg diweddar gan Cadw Prydain yn Daclus, canfuwyd sbwriel yn gysylltiedig â sigaréts mewn 79% o'r safleoedd yn yr arolwg. Gall stympiau sigaréts gymryd rhwng 18 mis a 15 mlynedd i ddadelfennu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gan fod yr hidlyddion yn y sigarets yn cael eu gwneud o fath o blastig, asetad seliwlos, nad yw'n pydru. Nid yn unig mae'r stympiau eu hunain yn achosi llygredd plastig helaeth, ond maen nhw hefyd yn llawn cemegau gwenwynig a all ollwng i'r amgylchedd.
Yn aml bydd bywyd gwyllt ar y tir ac yn y môr yn camgymryd stympiau sigaréts am fwyd ac yn eu bwyta - gyda chanlyniadau angheuol yn aml i'r anifeiliaid.
Gall stympiau sigaréts a ollyngir hefyd syrthio'n rhwydd i ddraeniau dŵr arwyneb a llifo'n syth i afonydd, llynnoedd a'r môr. Nid yw draeniau dŵr arwyneb yn cynnwys hidlyddion i atal stympiau sigaréts rhag pasio drwyddyn nhw, ac felly gall y stympiau fynd i'n cyrsiau dŵr, gan lygru ein hafonydd, llynnoedd a moroedd.
Mae Bin Your Butt yn lansio drwy Wlad yr Haf a Dorset y mis hwn. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddefnyddio biniau stryd priodol, biniau sigaréts ar waliau neu “stubby pack” cludadwy i helpu i waredu stympiau sigaréts yn gyfrifol.
Gallwch ddilyn ymgyrch #BINYOURBUTT ar Facebook, Twitter ac Instagram. Defnyddiwch yr hashnod #BINYOURBUTT.
Arfordir a Môr Di-sbwriel Gwlad yr Haf yw prif brosiect Partneriaeth Aber Hafren. Sefydlwyd y prosiect yn 2016, gyda chyllid gan Wessex Water, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Dosbarth Sedgemoor a Phrifysgol Caerdydd. Bwriad yr ymgyrch a arweinir gan y gymuned yw diogelu ansawdd dŵr ymdrochi a lleihau lefelau o sbwriel ar y traethau a'r môr ar hyd yr arfordir.
Arfordir a Môr Di-sbwriel Dorset yw chwaer-brosiect Arfordir a Môr Di-sbwriel Gwlad yr Haf a bydd yn rhedeg yr ymgyrch Bin Your Butt gyda Phartneriaeth Aber Hafren a redir gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Tîm Partneriaeth Aber Hafren bob amser yn awyddus i glywed gan unrhyw un a hoffai wybod mwy a chymryd rhan yn eu prosiectau, felly cysylltwch.
Gwyliwch fideo'r ymgyrch ar YouTube i ddarganfod mwy.