Ewch i’r prif gynnwys

To thine own self be true : Athro Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi'r gorau iddi ar ôl yn agos i hanner canrif

1 Hydref 2020

Ffarwel hoffus gan ei Ysgol i Athro a ysbrydolodd bedwar degawd o fyfyrwyr gyda'i angerdd dros lenyddiaeth

Mae'r Athro Llenyddiaeth Saesneg Martin Coyle wedi ymddeol yn dilyn 47 o flynyddoedd o wasanaeth.

Bu ymrwymiad diflino'r academydd nodedig i fyfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg yn nodwedd amlwg yn ei yrfa.

Ymunodd â Choleg Prifysgol Caerdydd a'i Adran Saesneg yn ddarlithydd newydd yn 1973 yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig yn Nottingham a blwyddyn yn y sefydliad sydd bellach yn Met Caerdydd.

Yn y degawd cyntaf hwnnw, adleolodd yr adran o Adeilad y Gyfraith i'r  Dyniaethau, a elwir bellach yn Adeilad John Percival. Yn 1988 tyfodd yr Adran Saesneg gan ddod yn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Newyddiaduraeth ac Athroniaeth wrth i Goleg Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru uno i greu Prifysgol Caerdydd.

Yn ystod y cyfnod rhyfeddol o gynhyrchiol hwn, golygodd Martin y gyfres ddylanwadol Macmillan New Casebooks - gan ysgogi lledaenu dulliau newydd o ymarfer llenyddol gyda'i gydymaith a'i gydweithiwr hir dymor John Peck. Mae ei gyfraniad i'r gyfres, ar Hamlet, yn parhau i fod yn astudiaeth bwerus o'r ddrama. Roedd eu canllawiau Practical Criticism,  Literary Terms, a Shakespeare – diddordeb mawr Martin - yn gyfarwydd ym mhob llyfrgell Prifysgol ac ar restrau darllen yn rhyngwladol. Y mwyaf dylanwadol oedd y Student’s Guide to Writing, a ysgrifennwyd ddiwedd y 1990au.

Ond roedd eu heffaith i'w deimlo ymhell y tu hwnt i ddarlithfeydd Prifysgol. Yn achlysurol byddai Martin yn derbyn llythyrau gan garcharorion yn mynegi eu diolch diffuant am ei ganllaw i ysgrifennu - gan sôn yn deimladwy am y ffordd yr agorodd gwelliannau yn eu hysgrifennu gyfleoedd newydd na feddylion  nhw byth y bydden nhw’n eu cael.

Erbyn 1997 - hanner ffordd drwy ei yrfa yng Nghaerdydd, roedd Martinyn gwneud cyfraniad sylweddol i'r Brifysgol ehangach fel aelod o'r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (PSAA) a Chadeirydd Bwrdd y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a wnaeth cymaint dros ddarpariaeth cydanrhydedd ynghyd â mentrau niferus eraill.

O droad y mileniwm hyd at y presennol, parhaodd Martin i wasanaethu yn y Gadair Llenyddiaeth Saesneg, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ac Arweinydd Prosiect Profiad y Myfyriwr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Heddiw, mae Pennaeth yr Ysgol yr Athro Martin Willis yn mynegi diolch ar ran yr Ysgol a'i chymuned ehangach, o'r gorffennol a'r presennol:

"Rydym ni wedi bod yn eithriadol o ffodus i gael angerdd Martin dros addysg - sydd wedi cyfoethogi ein haddysgu ni i gyd - am yn agos i hanner canrif.

Roedd ei addysgu'n ysbrydoledig, yn fythgofiadwy ac yn rhagorol.

Mae un cyn-fyfyriwr yn crisialu'r cyfan: "Nid mwynhau dosbarthiadau Martin oeddwn i. Roeddwn i'n eu caru. Gwnaeth i mi ddod i Gaerdydd. Mewn Diwrnod Agored siaradodd am Shakespeare a dyna hi. Edrychais i ddim ar unrhyw Brifysgol arall."

Ychwanega'r Athro Willis: "Ein lwc ni yw nad edrychodd Martin ar unrhyw Brifysgol arall. Gyda'i ymddeoliad, byddwn yn colli gwybodaeth ddihafal, brwdfrydedd diflino ac ysbryd colegol yr ydym yn cydnabod nawr yn fwy nag erioed ei fod yn rhan hanfodol o'n bywyd gwaith."

Rhannu’r stori hon