“Arch-ranwyr” sy’n gyfrifol am gyfran anghymesur o dwyllwobodaeth ynghylch Covid-19 ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ôl astudiaeth
30 Medi 2020
Gall nifer bychan o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol fod yn gyfrifol am ehangu a hybu cyfran anghymesur o dwyllwybodaeth ynghylch Covid-19, yn ôl adroddiad.
Ymchwiliodd academyddion o Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch, Prifysgol Caerdydd i weithgarwch pobl ar y cyfryngau cymdeithasol mewn pum gwlad - y DU, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Sbaen - drwy arolwg a gynhaliwyd rhwng 18 Mawrth a 30 Ebrill.
Mae’r tîm wedi nodi grŵp o bobl y maent yn eu disgrifio fel “arch-ranwyr”, sy’n cynrychioli 6% o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ac yn llawer mwy tebygol o rannu twyllwybodaeth ynghylch Covid-19. Mae gan yr unigolion hyn nifer o nodweddion cyffredin: Maent wedi cyfaddef eu bod wedi rhannu unrhyw fath o dwyllwybodaeth yn ystod y mis diwethaf, naill ai’n fwriadol neu’n ddiarwybod; maent yn rhannu newyddion gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol o leiaf unwaith y dydd ac yn cael golwg ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd gan ddefnyddio tri phlatfform neu ragor. Maent hefyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.
Roedd pobl nad oedd yn cael eu categoreiddio fel arch-ranwyr yn llawer llai tebygol yn ystadegol o rannu twyllwybodaeth ynghylch Covid-19.
Wrth archwilio’r data gan yr holl ymatebwyr ar draws y pum gwlad, roedd y rheiny oedd wedi gweld twyllwybodaeth ynghylch Covid-19 yn fwy tebygol o gredu ei bod yn effeithio ar ymddiriedaeth mewn gwyddonwyr, arbenigwyr a pholisïau iechyd “i raddau helaeth”.
Dywedodd yr Athro Kate Daunt wnaeth arwain y dadansoddiad: “Mae ein hymchwil yn cynnig cipolygon ar y ffactorau sy’n gwneud person yn llawer mwy tebygol o rannu twyllwybodaeth ynghylch Covid-19, yn ogystal â rôl ganolog y cyfryngau cymdeithasol ym mywydau pobl."
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod traean (31%) o’r rheiny o’r DU oedd wedi rhannu twyllwybodaeth ynghylch Covid-19 a newyddion ffug yn y gorffennol yn cyfaddef eu bod wedi rhannu ‘newyddion’ ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn ymddangos fel petai’n gywir ar yr adeg honno yn “ddiarwybod” iddynt, ond eu bod wedi darganfod yn hwyrach bod y newyddion yn “gor-ddweud”. Yr Eidal oedd â’r ganran isaf a hynny yn 20%.
I’r gwrthwyneb, Sbaen oedd â’r ganran uchaf o’r bobl a oedd wedi rhannu twyllwybodaeth a newyddion ffug am y coronafeirws gan “wybod” eu bod yn “gor-ddweud” (31%), o gymharu â’r grŵp lleiaf yn yr Eidal (11%).
Dinasyddion y DU oedd y mwyaf tebygol o beidio â gwirio ffeithiau “o gwbl” cyn eu rhannu ag eraill (28%). Dinasyddion yr Eidal oedd fwyaf tebygol o wirio ffeithiau “bob tro” (47%).
Y DU oedd â’r ganran leiaf o bobl a oedd yn dweud eu bod nhw wedi gweld newyddion ffug sy’n gysylltiedig â Covid-19 - sef 51%. Sbaen oedd â’r ganran uchaf sef 87%, gyda’r Eidal yn 84%, Ffrainc yn 72% a’r Almaen yn 58%.
Ychwanegodd yr Athro Daunt: “Mae gwahaniaethau amlwg o ran sut mae pobl yn y pum gwlad Ewropeaidd yn adnabod ac yn deall newyddion ffug. Roedd perthynas arwyddocaol yn yr holl wledydd rhwng y bobl nad oedd wedi gweld twyllwybodaeth ynghylch Covid-19 a’r rheiny nad oedd yn gwirio ffeithiau “o gwbl”. Felly, mae’n debygol iawn tra bod gan y DU y ganran isaf o bobl sydd wedi dweud nad ydynt wedi gweld newyddion ffug ar-lein, mae’n bosib bod nifer llawer uwch wedi gweld twyllwybodaeth heb sylweddoli.”
Mae’r astudiaeth yn cynnwys 3,696 dinesydd o Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen a’r DU (700+ person o bob gwlad, a gafodd eu holi am dwyllwybodaeth a newyddion ffug rhwng 18 Mawrth a 30 Ebrill 2020.