e-LRN 2020
29 Medi 2020
Roedd y ffocws ar gadwyni cyflenwi cynaliadwy a gwydn ar adegau o argyfwng mewn cynhadledd rithwir dri diwrnod a gynhaliwyd ganBrifysgol Caerdydd a Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth y Deyrnas Unedig rhwng 9 a 11 Medi 2020.
Oherwydd cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â phandemig byd-eang COVID-19, cafodd y gynhadledd flynyddol - sydd bellach yn ei 25ain flwyddyn – ei throi’n ddigwyddiad ar-lein, a gynhaliwydar Zoom Webinar, er mwyn peidio â cholli amser ac ymdrech trefnwyr a chyfranwyr, a hefyd i gynnal y gwaith o rannu canfyddiadau o brosiectau ymchwil yn rhyngwladol, y mae'r gynhadledd yn enwog amdano.
Felly cychwynnwyd Gwe-Gynhadledd Arbennig e-LRN 2020 ddydd Mercher 9 Medi 2020 gyda deg ffrwd ymchwil ochr yn ochr, ac arweinwyr arbenigol ym mhob sesiwn.
Roedd themâu’r ffrydiau yn amrywio o 'Rheoli Argyfwng ac Aflonyddwch', i 'Gwneud logisteg yn fwy cynaliadwy'. Cafodd awduron bum munud i gyflwyno eu hymchwil, ac yna cafwyd trafodaeth banel ar ddiwedd pob sesiwn dan arweiniad cadeiryddion y Ffrydiau.
Dywedodd Mohamed Naim, Athro mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd pwyllgor Trefnu e-LRN 2020: “Mae cael ffrydiau mor arbennig yn golygu bod Cynhadledd LRN yn arloesi, ac mae wedi gwella amrywiaeth a chynwysoldeb yn fawr, gyda llawer o wynebau newydd yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Cawson ni 758 o gofrestriadau, sy’n record...”
Dilynwyd hyn gan 4ydd Gweithdy ILEGO Prifysgol Caerdydd yn y prynhawn, dan arweiniad yr Athro Maneesh Kumar a Dr Vasco Sanchez Rodrigues, gyda chymorth gan y myfyriwr PhD blwyddyn olaf Nadine Leder, pawb ohonynt o Ysgol Busnes Caerdydd.
Roedd gweithdy eleni yn canolbwyntio argreu dolen drwy ddatgloi gwerth modelau busnes cylchol.
Cyflwynodd Joseph Sarkis, Athro Gweithrediadau a Rheoli Amgylcheddol ym Worcester Polytechnic Institute, Massachusetts, brif anerchiad y gweithdy, oedd yn gofyn a all ‘egwyddorion economi cylchol helpu i ymdrin â digwyddiad Black Swan sy'n tarfu'n gymdeithasol ac yn economaidd ac ymadfer ohono?'
Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Darllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, Cyd-Sylfaenydd iLEGO a Chyd-Gadeirydd pwyllgor Trefnu e-LRN 2020: “Roedd gan eLRN2020 dri phrif nod – trefnu'r gynhadledd LRN rithwir gyntaf, dod â mwy o ymarfer i'n cymuned academaidd, ac ymateb i COVID-19. Byddwn yn dweud ein bod wedi rhagori yn y rheini...”
Datblygiadau pwysig a heriau ymchwil i’r dyfodol
Cafodd y prif gynhadledd ei chynnal ddydd Iau 10 Medi ac fe'i cyflwynwyd ar ffurf sesiwn bore a phrynhawn.
Roedd y sesiynau'n cynnwys prif ymarferwyr, siaradwyr academaidd ac arweinwyr ffrwd, a roddodd gyflwyniadau cryno ar ddatblygiadau pwysig a heriau ymchwil i’r dyfodol ar gyfer eu pwnc, gan gloi â thrafodaeth banel.
Croesawodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, y cyfranogwyr i sesiwn y bore.
Esboniodd sut mae cysylltiad agos rhwng thema'r gynhadledd eleni ac ymrwymiad Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n cydnabod bod mwy i fusnes na llwyddiant economaidd.
Esboniodd bwysigrwydd dod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i'r sector busnes, a hynny ar y cyd fel cymuned o academyddion ac ymarferwyr Logisteg a Rheoli Gweithrediadau.
Dilynwyd anerchiad yr Athro Ashworth gan gyflwyniad allweddol Alan McKinnon, Athro Logisteg ym Mhrifysgol Logisteg Kühne, Hamburg.
Roedd ei gyflwyniad yntau’n canolbwyntio ar logisteg a rheoli'r gadwyn gyflenwi mewn byd ôl-COVID. Rhoddodd yr Athro McKinnon drosolwg eang o effeithiau trawsnewidiol posibl argyfwng COVID-19 ar systemau logisteg a chadwyni cyflenwi.
Dilynodd Paul Clarke CBE, Prif Swyddog Technoleg Ocado, yr Athro McKinnon gyda phrif anerchiad ar 'Adeiladu Rhyngrwyd o Atomau'.
Yn ei sgwrs, archwiliodd Paul weledigaeth ar gyfer sut gallen ni symud bwyd, cludo nwyddau, a phob math o atomau eraill o gwmpas gyda mwy o effeithlonrwydd, graddoli, cynaliadwyedd a gwydnwch.
Arweiniodd Sarah Lethbridge drafodaeth y panel i ddod â sesiwn y bore i ben, gyda'r holl siaradwyr ac arweinwyr ffrydiau yn aelodau o’r panel.
Llygredd plastig a gwasanaethau iechyd
Ar ôl saib i ginio, dechreuodd sesiwn y prynhawn gyda'r prif siaradwr Susan Jay, Arbenigwr Sector yn WRAP UK.
Bu Susan yn trafod Pact Plastig y Deyrnas Unediga sut mae brandiau mawr, manwerthwyr, gweithgynhyrchwyr a'r sector gwastraff wedi dod at ei gilydd i fynd i'r afael â llygredd plastig.
Bu hefyd yn archwilio’r effaith mae COVID-19 wedi'i chael ar wahanol rannau o gadwyn gyflenwi plastig – rhai da, a rhai ddim cystal – ac effaith bosibl hyn ar gyflawni'r nodau sy'n cyd-fynd â Pact Plastig y Deyrnas Unedig yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Caroline Barber, Prif Weithredwr Translaid, oedd prif siaradwr olaf y gynhadledd. Bu ei chyflwyniad hi, dan y teitl: 'Pwysigrwydd adeiladu cadwyni cyflenwi cadarn a chynaliadwy wrth fynd i'r afael â lefel marwolaethau mewn gwledydd incwm isel a chanolig; profiadau o Zambia ac Uganda’, yn archwilio effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau.
Pwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau ymateb integredig mewn pandemig i sicrhau nad ydym yn caniatáu gwyrdroi’r enillion a gafwyd wrth fynd i'r afael â lefel marwolaethau plant a mamau.
Ymunodd yr Athro Joseph Sarkis â'r prif siaradwyr ac arweinwyr y ffrwd ar gyfer trafodaeth panel y prynhawn.
Dywedodd Joseph Sarkis: “Roedd y gymysgedd o ymarferwyr ac academyddion yn agwedd wych iawn ar y gynhadledd electronig hon. Mae'n amlwg bod pawb a fu’n ymwneud â hi yn teimlo’n angerddol am eu pwnc...”
Daeth gweithdy PhD eLRN 2020 â’r trafodion yn eLRN 2020 i ben, ddydd Gwener 11 Medi, gyda 56 o gyfranogwyr, y nifer uchaf erioed, yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Hwyluswyd y gweithdy gan Dr Irina Harris, Darllenydd mewn Modelu Logisteg a Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, ynghyd ag Ed Sweeney, Athro Logisteg a Systemau ym Mhrifysgol Aston, Birmingham, Maria Huge-Brodin, Athro Rheoli Logisteg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Linköping, a Dr Graeme Heron, Athro Prifysgol Uwch mewn Rheoli Gweithrediadau a Gwelliant Parhaus ym Mhrifysgol Sheffield.
Roedd y gweithdy wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr doethuriaeth, ac yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gael cyngor arbenigol gan yr hwyluswyr a rhannu heriau a dysgu gyda'u rhwydwaith cymheiriaid.
Dywedodd yr Athro Sweeney: “e-LRN2020 oedd ein cynhadledd rithwir gyntaf a denodd y nifer uchaf erioed o gynadleddwyr. Roedd ansawdd ac ystod yr ymchwil a gyflwynwyd yn rhagorol, yn ogystal â chyfraniadau'r gwahanol siaradwyr allweddol a wahoddwyd. Roedd ffocws cryf ar gymhwyso ymchwil yn y byd go iawn gyda llawer o gynrychiolwyr o fyd diwydiant ac endidau llunio polisi cyhoeddus...”
“Edrychwn ymlaen yn obeithiol yn awr at ein cyfarfod cymunedol wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd yn 2021.”
Y Rhwydwaith Ymchwil Logisteg, sy'n rhan o'r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth, yw prif rwydwaith y Deyrnas Unedig ar gyfer y rhai sy'n ymwneud ag ymchwil ac ysgoloriaeth ym maes logisteg cadwyn gyflenwi a meysydd cysylltiedig.
Roedd Pwyllgor Trefnu e-LRN 2020 yn cynnwys: Emrah Demir (Cadeirydd y Rhaglen), Beverly Francis (Swyddog y Gynhadledd), Allison Glandfield (Rheolwr Digwyddiadau CILT), Irina Harris (Golygydd Gwadd Arweiniol - Materion Arbennig), Lucy Hemmings (Cydgysylltydd Digwyddiadau CILT), Angharad Kearse, Swyddog Cyfathrebu, Mohamed M. Naim (Cadeirydd y Gynhadledd), Stephen Pettit (Cadeirydd Ffrydiau Arbenigol), Vasco Sanchez Rodrigues (Cyd-gadeirydd y Gynhadledd) a Xiaobei Wang (Cyd-gadeirydd Rhaglen y Gynhadledd).