Ffarwél i becynnau dibwys wrth i ymgyrch arobryn Refill ehangu
28 Medi 2020
Yng Nghaerdydd, mae'r ymgyrch gynyddol dan arweiniad grŵp dechrau gyrfa’r Sefydliad Ymchwil Dŵr ers dwy flynedd.
Mae City to Sea, sefydliad sy'n ymgyrchu dros lygredd plastig yn mynd ag ymgyrch arobryn Refill i'r lefel nesaf. O 1 Hydref, bydd pobl yng Nghaerdydd yn gallu defnyddio'r ap am ddim i ddod o hyd i leoedd i ail-lenwi eu cwpan coffi, bocs bwyd a hyd yn oed cynhyrchion glanhau ac ymolchi. Dyma'r ap cyntaf yn y byd sydd wedi ymrwymo i helpu pobl i ddod o hyd i rywle i ail-lenwi eu cynwysyddion eu hunain - gan droi cefn ar blastig untro am byth. Bydd hefyd yn amlygu'r disgowntiau sydd ar gael, sy'n gwobrwyo cwsmeriaid am leihau'r defnydd o becynnau.
Yng Nghaerdydd, mae ymgyrch Refill dan arweiniad grŵp dechrau gyrfa y Sefydliad Ymchwil Dŵr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ogystal â lledaenu prif negeseuon yr ymgyrch, mae'r grŵp yn mynd i ddigwyddiadau cyhoeddus lleol i addysgu a rhoi gwybod i unigolion am broblem llygredd plastig ac yn cyfathrebu'r ymchwil ddiweddaraf ar y pwnc.
Mae grŵp 'Plastigau o'r ffynhonnell i'r sinc' y Sefydliad Ymchwil yn dwyn ynghyd academyddion o ddisgyblaethau amrywiol er mwyn ymchwilio agweddau gwahanol ar y broblem hon, gan gynnwys ymddygiadau cynaliadwy ynghylch defnydd untro, dylunio plastigau ecogyfeillgar, a'r effaith bosibl all plastigau ei chael ar ecosystemau dŵr ffres.
Mae'r ap Refill eisoes yn cysylltu pobl gyda dros 30,000 o leoliadau sydd â dŵr yfed am ddim, gan gynnwys dros 100 yng Nghaerdydd. Mae bellach hefyd yn cynnwys lleoliadau megis siopau diwastraff, manwerthwyr di-blastig megis cigyddion a phobyddion lleol a siopau mawr megis Costa a Morrisons sydd ag opsiynau ail-lenwi. Yng Nghaerdydd, gallwch eisoes fynd i Ripple, Lush, Big Moose Coffee, KIN + ILK neu Juno Lounge.
Dysgwch fwy am yr Ymgyrch Refill a chysylltwch â'r grŵp dechrau gyrfai gymryd rhan.