Cyflwyno ein Cydlynydd Llwybrau newydd
28 Medi 2020
Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Catherine Phelps i rôl y Cydlynydd Llwybrau tan fis Mehefin 2021. Catherine fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno astudio un o'n llwybrau i radd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Weithiau mae dysgwyr sy'n oedolion ac yn mentro dychwelyd i astudio ar ôl blynyddoedd i ffwrdd o addysg ffurfiol yn teimlo'n nerfus ac yn bryderus ynghylch dechrau eu hastudiaethau.
Mae ein llwybrau rhan-amser yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cyflawni eu potensial ac yn cael eu paratoi'n llawn ar gyfer astudiaethau gradd. Sylwadau Catherine:
“Fe ddychwelais i addysg bellach fel myfyriwr aeddfed ar ôl gadael yr ysgol yn wreiddiol yn un ar bymtheg oed. Rwy'n teimlo'n gryf y gall addysg fod o fudd i unigolion a'r gymuned yn gyffredinol ac y dylai pawb gael mynediad cyfartal at addysg.
Gwnes i fy astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydw i wedi bod yn arwain modiwlau mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn yr adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol dros y blynyddoedd diwethaf."
Rhestrir ein holl Lwybrau at raddau israddedig yma
Cysylltwch â Catherine trwy ebostio pathways@caerdydd.ac.uk