Syntheseiddio’r dystiolaeth yn ystod y pandemig: myfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn ymateb i’r her
24 Medi 2020
Yn fuan ar ôl i'r Brifysgol ddechrau ar gyfnod clo ym mis Mawrth, cyhoeddodd myfyrwyr, myfyrwyr ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ar draws yr Ysgol Meddygaeth rifyn cyntaf clwb cyfnodolyn cymunedol COVID-19.
Sefydlwyd clwb y cyfnodolyn, sydd newydd rannu ei 18ed argraffiad, i grynhoi ac adolygu'r maint enfawr o wybodaeth sy'n cael ei rhannu o ddydd i ddydd, yn bennaf i gefnogi ymdrechion clinigol ac ymchwil clinigwyr a gwyddonwyr lleol.
Yn ogystal â chael ei werthfawrogi gan gydweithwyr yn yr Ysgol Meddygaeth, Ysbytai Caerdydd a'r Fro a Felindre, fe'i rhannwyd â'r Gymdeithas Gofal Dwys ac (ar gais), gyda thimau Matt Hancock (a oedd yn enwedig eisiau gwybod mwy am gelloedd T) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn fwy na hynny, mae clwb y cyfnodolyn wedi bod yn rhan o drafodaethau a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Meddygon, a dynnodd sylw at wahanol fodelau cyhoeddi gan gynnwys manteision ac anfanteision gweinyddion rhagargraffu a sut y gallwn ni, fel cymuned o wyddonwyr helpu i sicrhau bod y wyddoniaeth fwyaf dibynadwy yn cael ei dosbarthu a'i rhannu mor gyflym â phosib.
Mae’r tîm o Gaerdydd bellach wedi uno â thîm tebyg ym Mhrifysgol Rhydychen; mae'r timau yn gweithio gyda'i gilydd i atgyfnerthu eu gwybodaeth hollgynhwysfawr am COVID-19 i gynhyrchu a chyhoeddi adolygiadau "byw" mewn cyfnodolyn newydd gan Wasg Prifysgol Rhydychen o'r enw Open Immunology.
Dywedodd Yr Athro Paul Moss, sy’n arwain consortiwm ledled y DU (gan gynnwys Caerdydd) sydd wedi’i hariannu gan UKRI ar imiwnopatholeg COVID-19, “Rwy'n credu bod y rhain yn ardderchog – y rhai gorau sydd ar gael o bell ffordd ac o ansawdd uchel iawn!”
Da iawn i chi i gyd am ymateb i her COVID-19.