Ewch i’r prif gynnwys

Mae llygredd aer yn arwain at gynnydd yn y defnydd o drydan, mae astudio'n awgrymu

24 Medi 2020

Stock image of air pollution

Mae lefelau uchel o lygredd aer yn gorfodi pobl dan do i ddefnyddio mwy o drydan, gan achosi mwy fyth o broblemau amgylcheddol drwy gynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae hyn yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi dangos bod yr effeithiau'n cael eu gweld yn fwy mewn teuluoedd incwm is a'r rhai o leiafrifoedd ethnig.

Dywed y tîm y dylai'r canlyniadau annog y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i feddwl sut y gall polisi atal anghydraddoldeb rhag lledu o ran risgiau iechyd a chaledi ariannol.

Archwiliodd yr astudiaeth, sydd wedi'i chyhoeddi yng nghyfnodolynNature Energy, y defnydd o ynni o dros 4,000 o adeiladau preswyl a 17,000 o adeiladau masnachol yn ninas Phoenix, Arizona rhwng 2013 a 2018.

Metropolitan Phoenix sydd â'r lefelau uchaf o lygredd aer yn yr Unol Daleithiau, gyda llygredd yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau naturiol, megis stormydd llwch, a gweithgareddau dynol fel cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth.

Cymharwyd data am ddefnydd adeiladau Phoenix o ynni â lefelau llygredd yr ardal, gan ganiatáu i'r ymchwilwyr ddweud a oedd aelwydydd â lefelau incwm penodol neu o wahanol grwpiau ethnig yn ymateb i lygredd aer yn wahanol.

Dangosodd y canlyniadau fod lefelau uwch o lygredd yn gysylltiedig â defnydd uwch o drydan mewn adeiladau preswyl, gyda chynnydd yn ystod y dydd yn bennaf.

Arweiniodd lefelau uwch o lygredd hefyd at fwy o drydan yn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau masnachol yn y diwydiannau manwerthu a hamdden.

"Mae ein canlyniadau'n dangos, pan fo lefelau o lygredd aer yn uchel, fod pobl yn tueddu i deithio lai a symud i weithgareddau dan do, sy'n arwain at fwy o drydan yn gyffredinol, boed hynny o wresogi, oeri a goleuo neu'r defnydd cynyddol o ddyfeisiau" meddai awdur arweiniol yr astudiaeth Dr Pan He o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Prifysgol Caerdydd.

Gwelodd defnyddwyr ar incwm is neu Hispanig gynnydd mwy, o bosibl am fod ganddynt effeithlonrwydd ynni isel yn eu cartrefi a'u bod yn fwy agored i lygredd aer.

Dr Pan He Lecturer in Environmental Science and Sustainability

Archwiliodd yr ymchwilwyr hefyd effaith lefelau uchel o lygredd aer ar gyflenwadau ynni, yn enwedig paneli solar.

Credir y gall paneli solar golli eu heffeithlonrwydd gan fod y llygredd aer nid yn unig yn amsugno ac yn gwasgaru golau'r haul yn yr awyr, ond mae hefyd yn cael ei ddyddodi ar arwyneb y paneli sy'n lleihau'r pŵer a gynhyrchir.

Yn wir, dangosodd y canlyniadau fod llygredd aer yn lleihau'r pŵer a gynhyrchir gan baneli solar mewn adeiladau preswyl a masnachol, gyda'r rhai masnachol yn cael eu heffeithio lai, o bosibl oherwydd bod y paneli'n cael eu cynnal a'u glanhau'n well.

"Mae ein canfyddiadau'n dangos pwysigrwydd ystyried rhyngweithiadau a hadborthau ymddygiad defnyddwyr a systemau ynni'r haul i faterion llygredd aer," parhaodd Dr He.

"Gallai dadansoddiad cost a budd wrth gyfrif am y difrod a gyflwynir yn y papur hwn arwain at enillion lles mwy o bolisïau rheoli llygredd. Yn y cyfamser, mae'n hanfodol lleihau'r perygl economaidd-gymdeithasol wrth addasu i lygredd aer, a gellir cyflawni hyn drwy wella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi grwpiau o incwm ac ethnigrwydd penodol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.