Cynllun peilot, a luniwyd er mwyn helpu plant y mae trawma wedi effeithio arnynt, yn llwyddiant yn ôl adroddiad
24 Medi 2020
Gallai cynllun arloesol a dreialwyd gan Barnado's Cymru fod yn sail i well cymorth i blant y mae trawma wedi effeithio arnynt, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.
Roedd prosiect Gwella yn beilot ar gyfer dull Gwella. Cynllun ymyrryd oedd hwn a gafodd ei ddatblygu a’i gynnal gan Barnardo’s Cymru ar draws gogledd a de Cymru. Roedd Gwella yn brosiect ymchwil ac ymarfer pedair blynedd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a weithredir mewn partneriaeth rhwng Barnardo's Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Prif nod Gwella oedd lleihau'r perygl sy’n wynebu plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed ac sy'n dioddef achosion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant (CRhB) neu Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (HSB), drwy ddatblygu model ataliol ar gyfer ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol.
Gan weithio gyda 31 o deuluoedd dros ddwy flynedd, defnyddiodd ymarferwyr Gwella weithgareddau sy'n seiliedig ar chwarae er mwyn helpu i ddatblygu perthynas gryfach rhwng plant a'u rhieni neu ofalwyr a gwella eu lles.
Roedd y rhieni a’r gofalwyr sy’n perthyn a fu’n rhan o’r gwerthusiad hwn yn unfrydol yn eu canmoliaeth o’r prosiect a’r newidiadau oedd wedi digwydd o ganlyniad i hyn.
Dywedodd pymtheg o'r unigolion a gyfwelwyd eu bod wedi meithrin cysylltiad gyda’u plant, eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i fagu plant, ac yn deall sut i chwarae a bodloni anghenion eu plant. I dri rhiant, roedd hyn yn arwyddocaol gan fod eu plant wedi'u symud o fod o dan eu gofal yn y gorffennol. O ganlyniad, roedd ganddynt lefelau uchel o bryder a diffyg ymddiriedaeth yn eu gallu i fagu plant.
Ymatebodd y plant a oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil yn gadarnhaol hefyd i brosiect Gwella. Siaradodd y rhan fwyaf am yr holl gemau a gweithgareddau y gwnaethon nhw eu mwynhau, ac am weld eisiau eu gweithiwr unwaith i'r sesiynau orffen. Dywedodd saith o'r plant fod eu hymarferydd wedi eu helpu i deimlo'n dawelach eu meddwl ac yn llai pryderus. Hefyd, nododd y rhieni welliannau sylweddol yn lles ac ymddygiad eu plant.
Dywedodd Dr Sophie Hallett, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae ein gwerthusiad o brosiect Gwella yn dangos gwerth y math hwn o waith sy'n canolbwyntio ar deuluoedd ac sy'n seiliedig ar y berthynas. Mae rhoi cyfle i blant a rhieni neu ofalwyr fynegi eu pryderon neu eu gofidiau, tra'n magu hyder yn eu galluoedd a chael cymorth i ddelio â heriau, yn allweddol i wella eu lles."
Bydd ymchwil academaidd Dr Hallett a'i gwerthusiad o fodel peilot Gwella yn cael ei ddefnyddio bellach i greu canllawiau ymarfer ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol.
Dywedodd Pat Duke, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardo's Cymru: "Rydym wrth ein bodd gyda chanfyddiadau'r gwerthusiad, yn enwedig y dystiolaeth o well cyfleoedd mewn bywyd i blant.
"Mae Barnardo's wedi bod yn ymwybodol ers tro byd o ba mor gyffredin yw achosion o gam-drin a thrawma na aethpwyd i’r afael â nhw yn hanes plentyndod cynnar y plant yn eu harddegau a'r oedolion ifanc yr ydym yn eu cefnogi.
"Rydym yn gobeithio y bydd ymyrraeth gynnar a ysbrydolwyd gan ddull gweithredu Gwella yn atal plant rhag cael eu cam-drin ymhellach neu gymryd rhan mewn ymddygiad peryglus yn y dyfodol."