Fideo: Beth ddigwyddodd yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 2019?
23 Medi 2020
![Houses of Parliament](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2452428/British_Houses_of_Parliament.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Cynhaliodd ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd weminar ar ‘yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 2019 y DG’.
Trafododd yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Jac Larner ganfyddiadau Astudiaeth Etholiad Cymru 2019.
Mae fideo o'r digwyddiad a'r sleidiau a gyflwynwyd bellach ar gael ar-lein.