Ymchwilwyr yr Ysgol Fferylliaeth yn datblygu cyfansoddyn newydd i ymladd â chanser
23 Medi 2020
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Birmingham, wedi datblygu moleciwlau newydd a all sbarduno ymateb imiwnedd yn erbyn celloedd canser.
Ymhlith llu o strategaethau o’r radd flaenaf sy'n cael eu harchwilio a'u defnyddio ar hyn o bryd i drin canser y mae imiwnotherapi, sy'n cynnwys cyfranogiad y system imiwnedd i ymosod ar ganserau nad oedd modd eu canfod o'r blaen. Mae rhai dulliau imiwnotherapi eisoes yn cael eu defnyddio'n glinigol, a chydnabuwyd y dechnoleg yn 2018 pan ddyfarnwyd Gwobr Nobel am Ffisioleg neu Feddygaeth i ddau o'i harloeswyr, James P Allison a Tasuko Honjo.
Gyda'r nod o ddatblygu imiwnotherapiwteg newydd, mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Dr. Youcef Mehellou o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Ben Willcox o Brifysgol Birmingham wedi datblygu cyfres o gyfansoddion sy’n targedu ac yn actifadu un math o gell imiwnedd, sy’n bwysig wrth ymladd â chanser yn nhyb gwyddonwyr. Yna, dangoswyd bod yr is-fath hwn o gell imiwnedd yn effeithiol wrth ddinistrio celloedd canser y bledren. Er i'r tîm adrodd yn flaenorol am gyfres o gyfansoddion sy'n cyflawni'r un swyddogaeth, mae'r gyfres newydd yn llawer mwy grymus na'r genhedlaeth gyntaf ac mae ganddynt briodweddau cemegol gwell sy'n debygol o'u gwneud yn feddyginiaethau gwell.
Meddai Dr. Youcef Mehellou, a gyd-arweiniodd yr astudiaeth: "Mae gan y gyfres newydd hon o gyfansoddion botensial mawr i gael eu datblygu'n therapiwteg wrth-ganser mawr eu hangen. Gan weithio gyda'n cydweithwyr a'n partneriaid arbenigol, rydym bellach yn canolbwyntio ar nodi'r canserau lle bydd y cyfansoddion hyn yn cael yr effeithiau therapiwtig gorau posibl ac yn symud y cyfansoddion ymlaen i astudiaethau mewn pobl cyn gynted â phosibl."
Cewch ragor o fanylion yma.