'Sinematig' a 'Ffyrnig': Recordiad symffoni gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd
18 Medi 2020
Mae adolygiad yn BBC Music Magazine wedi disgrifio CD diweddaraf Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn un 'sinematig' a 'ffyrnig'.
Cafodd Symffoni 1 Michael Csányi-Wills a gomisiynwyd ar gyfer y gerddorfa gan ei harweinydd, Mark Eager, ei recordio a'i ryddhau gan Prima Facie Records eleni.
Perfformiodd y gerddorfa y darn am y tro cyntaf fis Tachwedd 2019 yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd, cyn ei recordio ar gyfer Prima Facie Records fis Chwefror 2020. O achos Covid-19, cafodd cyngerdd arfaethedig y gerddorfa fis Mawrth ei ganslo ond, trwy ymdrech gydweithredol, roedd Ysgol Cerddoriaeth a Prima Facie yn gallu lledaenu'r recordiad, ynghyd â lluniau fideo o’r ymarferion, ar gyfer darllediad 'byw' un noson yn unig trwy YouTube.
Meddai Mark Eager, arweinydd y Gerddorfa Symffoni: "Dyma lwyddiant arall i Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Mae comisiynu a recordio darnau newydd mor bwysig ynglŷn â cheisio cadw cerddoriaeth gerddorfaol 'glasurol' yn berthnasol yn yr 21ain ganrif. Mae natur sinematig y darn hwn yn rhoi iddo iaith sy'n gyfarwydd, gan helpu'r gynulleidfa i uniaethu ag e a'i fwynhau yn syth. O ganlyniad i ddawn a gallu cerddorol Michael, brwdfrydedd ac angerdd ifanc y cerddorion ac ymroddiad y tîm recordio, roedd yn brofiad gwirioneddol wych."
Ynglŷn â’r recordiad terfynol, meddai Michael: "O ystyried bod rhai o’r myfyrwyr a gymerodd ran yn astudio pynciau eraill yn y brifysgol yn hytrach na cherddoriaeth, rhaid canmol medrau ac ymroddiad Ysgol Cerddoriaeth ac arweiniad rhagorol Mark Eager."
Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Ken Hamilton: “Rwy’n fodlon iawn ar bob rhan o’r ddisgen hon – y cyfansoddi, yr arwain, y canu a’r recordio – a hoffwn i longyfarch yn fawr bawb a gymerodd ran. Mae'n dipyn o gamp i’r myfyrwyr ac yn ychwanegiad gwerthfawr at y deunydd sydd wedi’i recordio."
Mae'r cyfansoddwr a'r pianydd o fri Michael Csányi-Wills wedi llunio darnau ar gyfer grwpiau siambr, corau, cerddorfeydd ac amrywiaeth eang o ffilmiau llwyddiannus. Bu'n gyfansoddwr preswyl i Sinffonia Cymru rhwng mis Medi 2013 a mis Mawrth 2018. Mae ei ddarnau cerddorfaol diweddaraf wedi'u perfformio ledled y deyrnas ac mae wedi ennill cynulleidfa ryngwladol yn Ewrop, Awstralia ac UDA o ganlyniad i gael ei gomisiynu i lunio cerddoriaeth yn rheolaidd.