Cytundeb Americanaidd i gwmni deilliannol o Gaerdydd
18 Medi 2020
Mae Alesi Surgical wedi dod i gytundeb gydag Olympus er mwyn dosbarthu system rheoli mwg llawfeddygol Ultravision y cwmni yn yr Unol Daleithiau.
Datblygodd Alesi - a ddechreuodd fel cwmni deilliannol o Ysgol y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd - Ultravision er mwyn gwaredu mwg llawfeddygol - is-gynnyrch meinweoedd sy'n cael eu trin gan ddyfeisiau llawfeddygol trydanol, ar gyfer torri, serio a phethau eraill.
Mae Ultravision, sy'n atal mwg a niwl llawfeddygol rhag mynd i'r aer, eisoes wedi cael cadarnhad y gellir ei ddefnyddio mewn llawdriniaeth agored a llawdriniaeth laparosgopig yn UDA. Mae Banc Datblygu Cymru wedi croesawu’r cytundeb hwn.
Mae dwy dalaith yn yr UDA wedi cymeradwyo deddfau sy'n nodi bod rhaid i ysbytai osod systemau awyru lleol mewn ystafelloedd triniaethau i reoli mwg ac i leihau'r risg o staff yn dod i gyswllt ag ef, ac mae deddfwriaeth arall ar y gweill mewn taleithiau eraill.
"Ultravision yw'r unig dechnoleg sy'n clirio mwg yn gyflym ac yn barhaus o'r maes gweledol heb fod angen cyfnewid a hidlo CO2. Dyma'r unig gynnyrch sy'n darparu'r gwelededd mwyaf ond gan ddod i gyn lleied o gysylltiad â phosibl â charbon deuocsid," meddai Dominic Griffiths, prif weithredwr Alesi Surgical.
"O ystyried adnoddau ac arbenigedd aruthrol Olympus, bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn manteisio ar allu ysbytai'r Unol Daleithiau i ddefnyddio Ultravision a chyflwyno ei fanteision i staff a chleifion."
Mae Olympus yn wneuthurwr technoleg optegol a digidol byd-eang a blaenllaw. Dywedodd Ross "Rusty" Segan, prif swyddog meddygol Olympus Corporation: "Mae defnyddio dyfais rheoli mwg llawfeddygol effeithiol yn hanfodol er mwyn lleihau'r risg o dimau llawfeddygol yn dod i gysylltiad â mwg yn yr ystafell lawdriniaeth.
"Mae’n ddealladwy bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn pryderu am risgiau a achosir gan fioerosolau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd diogel o barhau i gyflawni llawdriniaethau gan ddefnyddio technegau nad ydynt yn or-oresgynnol, oherwydd y manteision clinigol sylweddol y mae'r math hon o driniaeth yn eu cynnig i gleifion. Gyda'i ddull gweithredu unigryw a nodweddiadol iawn, mae Ultravision yn cynnig ffordd arloesol o reoli bioerosolau yn ystod llawdriniaethau laparosgopig."
Dywedodd Philip, swyddog gweithredol buddsoddiadau Banc Datblygu Cymru: "Mae datblygiad diweddaraf Alesi yn hynod gyffrous. Mae’n gam sylweddol tuag at farchnadoedd rhyngwladol, gyda manteision amlwg i'r sectorau iechyd a meddygol. Edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth iddynt barhau i dyfu."