Prosiect Eagle yn lansio ymgyrch ariannu torfol mewn ymgais i barhau i weithio yn ystod y pandemig
18 Medi 2020
Mae prosiect i ailgyflwyno eryr i rannau o Gymru wedi lansio ymgyrch ariannu torfol er mwyn ei helpu i barhau â’u gwaith yn ystod y pandemig.
Mae Ailgyflwyno Eryrod yng Nghymru (ERW), a gefnogir gan Brifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru a Sefydliad Bywyd Gwyllt Roy Dennis, yn gobeithio adfer eryr aur a/neu gynffonwen i gefn gwlad Cymru. Nid ydynt wedi bodoli yma ers canol y 19eg ganrif.
Mae pandemig y coronafeirws wedi gadael ERW heb gyllid – ac mae'r prosiect bellach yn ceisio cefnogaeth y cyhoedd er mwyn helpu i sicrhau fod ei ymdrechion i ailgyflwyno’r adar ysglyfaethus eiconig i'r gwyllt yn parhau.
Dywedodd Sophie-lee Williams, 28, sy’n rheoli’r Prosiect Ailgyflwyno Eryrod yng Nghymru[GH1] ym Mhrifysgol Caerdydd: "Cawsom drafodaethau am gytundebau ariannu gyda sawl cefnogwr amlwg cyn y pandemig ond cyn gynted ag y cyflwynwyd y cyfnod clo daeth yn amlwg na fyddai'r arian hwn ar gael mwyach.
"Nes bydd y llywodraeth a chronfeydd cadwraeth yn ailagor, rydym yn gofyn am gymorth a chefnogaeth y cyhoedd i barhau â'n gwaith arloesol i ddod â'r rhywogaethau diwylliannol ac eiconig hyn yn ôl i Gymru."
Mae adfer rhywogaethau yn waith cymhleth dros ben ac mae'n cynnwys llawer o wahanol agweddau – o astudiaethau dichonoldeb helaeth ac ymchwil drylwyr i nodi'r cynefinoedd gorau ac ardaloedd rhyddhau addas yng Nghymru, hyd at ymgynghori cyhoeddus helaeth ar raddfa eang â chymunedau a rhanddeiliaid. Mae'n rhaid i'r gwaith gydymffurfio â phrosesau trwyddedu llym a bennir gan yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Gwarchod Natur (IUCN) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn fwyaf diweddar, mapiodd ERW ddosbarthiad hanesyddol y ddwy rywogaeth yng Nghymru – sy'n rhagofyniad hanfodol ar gyfer eu hailgyflwyno.
Yn ôl arbenigwyr bywyd gwyllt, prosiect ERW sydd â'r cyfle mwyaf realistig, o adfer y ddau eryr brodorol yn llwyddiannus, o gymharu â nifer o brosiectau eraill. Disgrifiodd arbenigwyr ymdrechion ERW fel rhai rhagorol, hynod broffesiynol a threfnus.
Nod ERW yw codi hyd at £50,000 i helpu i ariannu ymchwilydd amser llawn ar gyfer y prosiect.
"Rydym yn gobeithio y bydd yr apêl hon yn helpu i alluogi ein prosiect i barhau i symud ymlaen hyd yn oed yn ystod ansicrwydd y pandemig," meddai Sophie-lee.
"Rydym eisoes wedi gwneud tair blynedd o waith caled - ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd er mwyn bodloni gofynion cyn y gwelwn yr eryr yn hedfan yn yr awyr yng Nghymru unwaith eto.
"Bydd unrhyw rodd fawr neu fach yn ein helpu i barhau i gasglu'r dystiolaeth hollbwysig sydd ei hangen arnom i adfer y rhywogaethau ysblennydd hyn i Gymru. Po fwyaf y codwn codi, mwyaf diogel fydd prosiect ERW yn ystod y pandemig."
Bydd cyllid yn galluogi ERW i gychwyn a chwblhau'r gofynion IUCN canlynol:
- Ymgysylltu’n helaeth â'r cyhoedd, y gymuned a rhanddeiliaid;
- Asesiadau risg ecolegol;
- Argaeledd ysglyfaeth ac asesiadau dwysedd
- Dewis y safleoedd rhyddhau gorau ar gyfer y ddau eryr yng Nghymru;
- Grŵp llywio prosiect i lywio camau nesaf y gwaith hwn;
- Y cynlluniau ymarferol a'r dulliau trawsleoli sy'n arwain at adfer eryr
Mae dolen i'r ymgyrch cyllid torfol gael yma.