Wal Hadrian: Her ar raddfa ymerodrol
17 Medi 2020
Cyn-fyfyrwyr yn mynd i'r afael â'r hyn sy'n cyfateb i dri marathon dros dri diwrnod er cof am ffigur ysbrydoledig
Mae cyn-fyfyrwyr hanes yr henfyd yn gwisgo eu trainers ac am redeg pellter arwrol i godi arian er cof am fenyw ysbrydoledig.
Y bwriad yw rhedeg pob un o 84 milltir yr hen ffin Rufeinig – sy'n cyfateb i dri marathon – dros dri diwrnod yn olynol.
Bu Matt Evans, Alex Spencer ac Alex Burrill yn astudio gyda'i gilydd yng Nghaerdydd – gan gymryd rhan mewn llawer o chwaraeon drwy gydol eu graddau. Roedd y ffrindiau am osod her iddyn nhw eu hunain, ond ysbrydoliaeth un fenyw a'i hagwedd at fyw gyda chanser oedd y sbardun i weithredu.
Fel yr eglura Matt Evans (BA Hanes yr Henfyd 2014, MA Hanes yr Henfyd 2016), sy'n Ymgynghorydd Technoleg yn Accenture:
'Cefais gefnogaeth frwd gan fy mam fedydd Ali Watkins i fod yr aelod cyntaf o fy nheulu i fynd i'r brifysgol. Ar ôl cael diagnosis o ganser yn 2010, wynebodd bob her gydag agwedd gadarnhaol. Yn rhyfeddol, yn ystod deng mlynedd olaf ei hoes yn dilyn y diagnosis, rhoddodd ei bywyd i helpu eraill, gan godi miloedd o bunnoedd i elusennau. Drwy redeg y nod yw parhau â'r ysbryd hwnnw.'
Bydd Marcus Ashcroft yn ymuno â'r tri ffrind ar gyfer yr her dri diwrnod gan ddechrau ar 9 Hydref.
Enwyd Wal Hadrian ar ôl yr Ymerawdwr Rhufeinig a orchmynnodd iddi gael ei hadeiladu, ac erbyn hyn, dyma'r ffin sydd wedi'i chadw orau o holl ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig drwy'r byd. Mae'n dilyn llwybr o’r naill arfordir i'r llall drwy rannau garwaf tirwedd gogledd Lloegr o Wallsend ar Afon Tyne i Aber Solway ar Fôr Iwerddon.
Fe'i cwblhawyd yn 128 AD, a chymerodd chwe blynedd i dair lleng o 5,000 o droedfilwyr ei hadeiladu. Marciwyd pob milltir Rufeinig gyda chaer fach oedd yn cynnwys garsiwn o filwyr. Y wal hon - oedd yn nodi pen draw gwareiddiad i'r Rhufeinwyr - fyddai'r ysbrydoliaeth i nofelau Game of Thrones George RR Martin.