Yn ôl adroddiad, mae llai na hanner o garcharorion Cymru yn dychwelyd i lety sefydlog ar ôl cael eu rhyddhau
16 Medi 2020
Mae ymchwil newydd yn datgelu bod cannoedd o garcharorion yn cael eu rhyddhau'n ddigartref yng Nghymru.
Mae'r adroddiad, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dangos bod 543 o bobl wedi cael eu rhyddhau o garchardai Cymru heb gyfeiriad parhaol i ddychwelyd iddo yn 2018/19*. Yn CEM Caerdydd oedd mwyafrif y rheiny a ryddhawyd o'r carchar yn ddigartref (327), a rhyddhawyd carcharorion eraill yn ddigartref o CEM Abertawe (105); CEM Parc (85); CEM Berwyn (19); a CEM Prescoed (7).
Mae data ar wahân yn dangos bod llai na hanner (44%) yr holl garcharorion a reolwyd gan wasanaethau prawf Cymru ac a ryddhawyd o'r ddalfa wedi mynd i lety sefydlog.**
Yn ogystal â chasglu gwybodaeth yn barod yn y parth cyhoeddus, cafwyd data am boblogaethau carchardai yng Nghymru’n unig ac yn Lloegr yn unig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy ddefnyddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Robert Jones: “Gwnaeth Ddeddf Tai (Cymru) 2014 dynnu carcharorion oddi ar y rhestr o bobl sy'n cael statws 'angen blaenoriaethol' awtomatig ar gyfer llety dros dro yng Nghymru. Ers hynny, mae llawer o alw wedi bod i ailgyflwyno angen blaenoriaethol i garcharorion gan fod pryderon cynyddol. Mae hyn hefyd wedi’i weld mewn arolygiadau carchardai ynghylch y niferoedd cynyddol sy’n cysgu ar y stryd ac sy’n ddigartrefedd y ar ôl cael eu rhyddhau. Mae'r data a nodir yn ein hadroddiad diweddaraf yn ategu'r pryderon hyn ymhellach, yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi codi yn sgîl pandemig Covid-19."
Mae rhagor o ganfyddiadau o'r adroddiad, Prison, Probation and Sentencing in Wales: 2019 Factfile, yn dangos y canlynol:
Covid-19
- Ar 19 Mehefin 2020, yng ngharchardai Cymru yr oedd un o bob pump (20%) o'r holl achosion o Covid-19 a gadarnhawyd ymysg carcharorion yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod carchardai Cymru yn gartref i 6% o boblogaeth carchardai yng Nghymru a Lloegr ar ddiwedd mis Mehefin 2020.
Ethnigrwydd
- Roedd pobl ddu yng Nghymru yn cael eu gorgynrychioli bron i chwe gwaith yn ormod mewn carchardai yn 2019. Roed carcharorion Asiaidd wedi'u gorgynrychioli 1.9 gwaith ac roedd unigolion o grwpiau ethnig cymysg wedi'u gorgynrychioli 2.7 gwaith. Unigolion Cymraeg o gefndir ethnig Gwyn (0.9) oedd yr unig grŵp i gael ei dangynrychioli mewn carchar yn 2019. Er y gellir gweld patrwm tebyg yn Lloegr, mae lefel y gorgynrychioliaeth ar gyfer pob un o'r grwpiau hyn yn uwch yng Nghymru.
Eitemau a ganfuwyd mewn carchardai
- Gwnaeth nifer yr eitemau alcohol a ganfuwyd mewn carchardai Cymru (ac eithrio CEM Berwyn***) gynyddu 57% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Yn yr un cyfnod, cynyddodd nifer yr eitemau alcohol a ganfuwyd yn CEM Berwyn 225% ar adeg pan gynyddodd y boblogaeth yno 31%.
- Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd cynnydd o 33% yn nifer yr arfau a ganfuwyd yng ngharchardai Cymru (ac eithrio CEM Berwyn). Yn CEM Berwyn (18) daethpwyd o hyd i’r nifer uchaf o arfau yng Nghymru fesul 100 o garcharorion yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Cofnodwyd y gyfradd ail uchaf yn CEM Parc (12 fesul 100) yna CEM Caerdydd (6 fesul 100), CEM Abertawe (6 fesul 100), a'r gyfradd gyfunol ar gyfer CEM Usk/Prescoed (2 fesul 100).
Ymosodiadau
- Yn CEM Berwyn, pan gynyddodd ei boblogaeth 18%, cynyddodd nifer yr ymosodiadau carcharwr-ar-garcharwr 143% yn 2019.
- Roedd cyfradd ymosodiadau carcharwr-ar-garcharwr ar ei uchaf yn CEM Berwyn yn 2019 gyda 39 digwyddiad fesul 100 o garcharorion. Cofnodwyd y lefel ail uchaf yn CEM Parc (35 fesul 100), yna yn CEM Caerdydd (24 fesul 100), CEM Abertawe (20 fesul 100) a CEM Usk a Phrescoed (3 fesul 100).
Dywedodd Dr Jones: “Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop o hyd, wrth ddefnyddio naill ai cyfrifiadau 'cyfeiriad cartref' neu 'o fewn y wlad'. Mae hyd cyfartalog dedfrydau o garcharu yn parhau i gynyddu, ac mae nifer yr eitemau cyffuriau, alcohol, tybaco ac arfau a ganfuwyd wedi cynyddu ymhellach.
“At hynny, mae lefel y mae unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a Chymysg yn cael eu gorgynrychioli mor uchel mae'n peri gofid. Gobeithio y gall y canfyddiadau hyn helpu i ddechrau trafodaeth ddeallus a beirniadol ynghylch ar anghydraddoldeb yn system carchardai Cymru. Rydym hen bryd cael trafodaeth o'r fath.”
Bydd yr adroddiad, Prison, Probation and Sentencing in Wales: 2019 Factfile, ar gael i'w ddarllen yma.