Pharmabees yn lansio tudalen Just Giving
14 Medi 2020
Mae prosiect arobryn sy'n cefnogi gwenyn a phryfed peillio eraill yng Nghymru yn gofyn am gymorth y cyhoedd. Mae Pharmabees – sydd wedi'i leoli yn Ysgol Gwyddorau Fferylliaeth a Fferyllol Prifysgol Caerdydd – wedi datblygu o fod yn waith mewn labordy i fod yn brosiect sy’n nodi gwrthfiotigau newydd mewn mêl a phlanhigion brodorol yng Nghymru. Gellir defnyddio’r rhain i drin yr uwchfygiau sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Erbyn hyn, mae'r prosiect yn ymgysylltu ag gydag ysgolion, cynghorau, busnesau ac elusennau er mwyn ceisio datblygu ateb Cymru i fêl Manuka enwog Seland Newydd. Fel prosiect gwyddoniaeth dinasyddion, mae tîm Pharmabees yn gofyn i gydweithwyr fel disgyblion ysgol yn Cathays, Caerdydd, gadw cofnod o ba blanhigion sy'n tyfu orau ac sy'n denu'r nifer uchaf o ymweliadau gan bryfed drwy arolwg BioBlitz.
Dywedodd yr Athro Les Baillie: Bydd y wybodaeth y mae ein gwyddonwyr ifanc yn ei chasglu yn cael ei defnyddio i helpu'r Brifysgol i ddatblygu cymysgedd o 'hadau uwch' o flodau gwyllt – fydd yn cynnwys y blodau gorau ar gyfer gwenyn mêl. Mae cynhyrchu pecynnau o hadau blodau i’w dosbarthu yn rhad ac am ddim yn waith drud. Felly, drwy sefydlu tudalen codi arian, gobeithiwn allu codi digon i allu dosbarthu mwy o becynnau hadau i blant yn Cathays wrth i ni geisio datblygu gerddi gwenyn trefol lle gall pryfed peillio ffynnu.
"Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion er mwyn cysylltu plant mewn ardaloedd trefol â byd natur ac amlygu pwysigrwydd gwyddoniaeth. Gyda lwc, bydd gan weithgareddau Pharmabee rôl ddefnyddiol wrth helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau STEM, o gofnodi gwenyn yn gywir pan fyddant yn eu gweld, i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol blanhigion a phryfed."
Mae manylion y dudalen codi arian i'w gweld YMA
Gallwch lawrlwytho canllaw ar sut i adnabod planhigion a phryfed unigol - yn ogystal â'r arolwg - ar wefan Pharmabees, a gallwch rannu lluniau ar gyfrif Twitter Pharmabees.