Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant Busnes ar gyfer Bragdai Cymru

11 Medi 2020

Beer poured into glass

Mae tîm o academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Talaith Portland wedi lansio rhaglen o fodiwlau hyfforddi ar-lein am ddim sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer bragdai yng Nghymru.

Datblygwyd y chwe modiwl gan yr Athro Mellie Pullman, Athro Willamette Industries Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Ysgol Busnes Prifysgol Talaith Portland, gyda chymorth yr Athro Maneesh Kumar a Dr Vasco Sanchez Rodrigues o Brosiect Twf ar y Cyd Prifysgol Caerdydd, a'r nod yw helpu bragdai yng Nghymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol a thu hwnt yn y dyfodol.

Bydd y modiwlau'n canolbwyntio ar fragdai Cymru a busnesau diodydd crefft eraill ac yn trafod tueddiadau cyfredol, strategaethau goroesi a chyfleoedd i wella strwythur cost ac elw busnes.

Cyflwynir yr hyfforddiant am ddim yn rhithwir drwy gynnwys fideo, ymarferion, sesiynau rhyngweithiol a phostio pynciau wythnosol er mwyn i fragdai allu cyfnewid barn, syniadau a chydweithio.

Gwahoddir gwesteion arbennig i siarad ar bob modiwl fel rhan o gyfarfod rhithwir lle gall bragdai ddysgu gan ddiwydiannau neu gyflenwyr cefnogol a thrafod pynciau sy'n berthnasol iddyn nhw.

Y gwestai cyntaf oedd Dan Unwin, Rheolwr Cyffredinol Brewers Select. Rhannodd Dan ei ddealltwriaeth am dueddiadau cyfredol mewn cynhwysion bragu ac atebodd gwestiynau gan y gynulleidfa ar sawl pwnc yn amrywio o dueddiadau sy'n ymddangos, arddulliau a mathau o becynnu, i effaith COVID-19 ar y cyflenwad o ddeunyddiau crai a sut y gallai hynny yn ei dro effeithio ar ffasiynau cwrw yn y dyfodol.

“Diben yr hyfforddiant yw helpu bragdai i ddeall sut i wneud arian drwy wneud beth maen nhw'n ei garu,” dywedodd yr Athro Pullman.

Ychwanegodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Darllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd ac ymchwilydd arweiniol Prosiect Twf ar y Cyd: “Mae ein gweledigaeth o gydweithio'n cynnwys trosglwyddo gwybodaeth i gynhyrchwyr diodydd yng Nghymru a rhyngddynt â’i gilydd. Dros chwe modiwl byddwn yn cwmpasu pynciau fel cynhyrchu, dosbarthu a phecynnu...”

“Ac i ategu un o nodau sylfaenol ein Prosiect Twf ar y Cyd, byddwn yn helpu bragdai i ddeall costau cyfredol cynhyrchion, cyfleoedd i leihau costau a sut i gynyddu elw drwy gydweithio.”

Yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues Professor in Sustainable Supply Chain Management

Ariennir Prosiect Twf ar y Cyd yn rhannol gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Lywodraeth Cymru, a'i nod yw hwyluso cydweithio ar draws sector diodydd Cymru drwy gymhwyso ymchwil ar sail clwstwr.

Rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant a chofrestru i gymryd rhan.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd datblygu trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.