Diwygiadau newydd i 'cryfhau ein democratiaeth yng Nghymru'
10 Medi 2020
Mae pwyllgor Senedd wedi argymell creu senedd fwy i Gymru, a etholir gan Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn argymhell y dylid ethol Senedd rhwng 80 a 90 aelod gan ddefnyddio’r system bleidleisio newydd o 2026 ymlaen.
Ers 2017, mae’r Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn ddylanwadol ar agenda diwygio’r Senedd, ac mae nifer o’i hargymhellion eisoes wedi’u gweithredu. Amlygwyd ei gwaith sylweddol i bwyllgor y Senedd heddiw, ynghyd â chyfraniadau gan yr Athro Roger Awan-Scully a Dr Jac Larner sydd hefyd yn cael eu dyfynnu yn yr adroddiad am eu gwaith ar fodelu etholiadol.
Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad:
"Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor yn fawr, gan ei fod yn cynrychioli'r cam nesaf yn y broses o greu Senedd sy'n addas at y diben ac sy'n gallu gweithredu'n effeithiol ar ran pobl Cymru. Ni fydd y drafodaeth ynghylch maint y sefydliad yn diflannu, ac mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn cyn gynted ag y bo modd.
"Mae'r digwyddiadau a welwyd yn ddiweddar, gan gynnwys y pandemig ac ymadawiad Prydain â'r UE, wedi taflu goleuni pellach ar y mater o gael capasiti priodol i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth ac asiantaethau eraill. Bydd gwaith craffu effeithiol yn talu am ei hun.
"Rwy'n falch iawn hefyd bod y Pwyllgor wedi atgyfnerthu ymrwymiad y Panel Arbenigol i greu system etholiadol fwy cyfrannol er mwyn ethol Senedd sy'n fwy o faint. Dylai mandadau cyfartal, dewis pleidleiswyr ac amrywiaeth fod wrth wraidd system etholiadol newydd. Rwyf hefyd yn awyddus i weld y mater o gwotâu deddfwriaethol yn cael ei gadw ar agenda ddiwygio pawb. Byddai proffil cyhoeddus a hygrededd y Senedd, ynghyd â'i heffeithiolrwydd, yn cael eu gwella drwy 'bobi' amrywiaeth i mewn i'w gynlluniau ar gyfer ehangu a diwygio."