Ymchwilydd CNGG yr MRC yn derbyn grant cychwynnol Cyngor Ymchwil Ewrop
7 Medi 2020
Mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn grant clodwiw sy'n ceisio helpu gwyddonwyr ac ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfaoedd i adeiladu eu timau eu hunain a chynnal ymchwil arloesol.
Mae Dr Arianna di Florio, o Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg yr MRC (CNGG yr MRC), yn un o 436 o bobl i fod wedi ennill grant cychwynnol fel rhan o gystadleuaeth 2020 Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC).
Mae'r cyllid, sy'n werth cyfanswm o €677 miliwn, yn rhan o raglen Ymchwil ac Arloesi yr UE, Horizon 2020.
Dyfarnwyd €1.5 miliwn i Dr di Florio, a fydd yn astudio Saernïaeth Genetig Anhwylderau Seiciatrig sy'n gysylltiedig â Steroidau Rhyw (GASSP).
Dywedodd Dr di Florio: "GASSP yw'r astudiaeth geneteg foleciwlaidd gyntaf o'r sensitifrwydd seiciatryddol i newidiadau hormonau rhyw. Ein nod yw recriwtio mwy na 3,000 o ferched sy'n byw gydag anhwylderau seiciatryddol sy'n gysylltiedig yn arleisiol â newidiadau mewn hormonau rhyw.
"Hon fydd y garfan fwyaf o ferched sy'n profi'r cyflyrau hyn hyd yma. Bydd yn ein helpu i nodi a chyrraedd dioddefwyr, gan ei gwneud yn haws iddynt gymryd rhan mewn ymchwil, a bydd yn ein galluogi i gynnal dadansoddiadau soffistigedig, gan integreiddio gwybodaeth glinigol a seico-gymdeithasol hydredol fanwl â data cyfanredol genomau ac anodiadau swyddogaethol."
Fel rhan o'r prosiect, bydd Dr di Florio yn gweithio ochr yn ochr â'r Ganolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl (NCMH) i sefydlu cydweithrediad â menywod sy'n byw â'r anhwylderau hyn.
Mae'r rhai sydd wedi derbyn grantiau yn grŵp amrywiol gyda 40 cenedligrwydd gwahanol. Ymhlith yr enillwyr, mae 20 o ymchwilwyr yn symud i Ewrop o ymhellach i ffwrdd o ganlyniad i’r cyllid. Bydd y rhai sydd wedi derbyn grantiau’n cael eu lleoli mewn 25 o wledydd ledled Ewrop, gyda'r Almaen, y DU, yr Iseldiroedd a Ffrainc yn brif leoliadau. Dewiswyd tua 13% o geisiadau am arian yn y rownd hon.
Dywedodd Dr di Florio: "Rwy'n gobeithio y bydd GASSP yn cyfrannu at gael gwared ar y stigma sydd ynghlwm wrth anhwylderau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig ag atgenhedlu benywaidd trwy ddarparu gwybodaeth hawdd ei deall ar sail tystiolaeth, a mynd i'r afael â'r bwlch rhwng y rhywiau mewn seiciatreg a amlygwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd a Sefydliad Iechyd y Byd.
"Hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr yn CNGG yr MRC a’r NCMH am eu cefnogaeth."