Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad yn edrych ar Werth Ychwanegol Rhaglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru

9 Medi 2020

European Union, United Kingdom and Welsh flags
European Union, United Kingdom and Welsh flags

Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dadansoddi gwerth rhaglen gydweithredu Iwerddon-Cymru.

Mae’r adroddiad polisi gan Dr Giada Lagana a’r Athro Daniel Wincott yn berthnasol i drafodaethau sy’n digwydd yn y Deyrnas Gyfunol ynghylch dyfodol Cronfeydd Strwythurol yr UE a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (Shared Prosperity Fund (SPF)). Soniwyd am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyntaf ym maniffesto etholiad cyffredinol y Ceidwadwyr a bwriedir iddi ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr EU, sy’n werth tua £2.1 biliwn y flwyddyn. Bwriad y gronfa hon yw lleihau’r anghydraddoldeb rhwng cymunedau ar draws pedair gwlad y DG a chyflawni twf cynaliadwy a chynhwysol, o ddechrau 2021 ymlaen. Fodd bynnag, gydag amser yn prinhau, nid oes eglurder o hyd ynghylch dyluniad y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Byddai’r gronfa hon yn arbennig o bwysig i Lywodraeth Cymru, gan fod Cymru wedi bod yn derbyn tua £370 miliwn y flwyddyn o gronfeydd strwythurol yr UE. Ymhlith y mentrau a weithredwyd yn y fframwaith hwn, mae’r rhaglen drawsffiniol sydd ar waith yng Ngweriniaeth Iwerddon a Chymru ers 2007 – ‘Rhaglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru’ neu raglen ‘Interreg Iwerddon-Cymru’ – wedi rhoi fframwaith i gyrff yn yr ardal drawsffiniol allu bwrw iddi i gydweithio er mwyn ymdrin â heriau a blaenoriaethau cyffredin ar bob ochr o Fôr Iwerddon.

Er bod y rhaglen yn gymharol fach, mae hi wedi gwneud cyfraniad gweithgar i ddatblygiad economaidd a chynaliadwy Iwerddon a Chymru. At hynny, mae esblygiad cydweithio trawsffiniol Iwerddon-Cymru o dan nawdd Interreg wedi bod yn hanfodol i feithrin ac i gryfhau partneriaethau ar draws Môr Iwerddon ac i rymuso’r cyfranogi gan rwydweithiau polisïau wrth wneud polisïau cyhoeddus.

Er gwaetha’r cyflawniadau, mae dyfodol rhaglen Interreg Iwerddon-Cymru yn y fantol. Beth bynnag yw’r heriau, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur nad yw gadael yr UE yn golygu troi cefn ar ei phartneriaid yn Ewrop. Yn wir, dadleuir bod Brexit yn cryfhau’r angen i Gymru ddangos ei heffeithiolrwydd a’i natur ddibynadwy fel partner, gan gydweithio nid yn unig yn y DG a’r UE, ond ledled y byd i gyflawni nodau cyffredin.

Felly, mae awduron yr adroddiad wedi archwilio a yw natur drawsffiniol y rhaglen wedi dod ag unrhyw werth ychwanegol o safbwynt gwleidyddol. Mae’r ymchwil hwn, drwy dynnu ar ddadansoddiad cynhwysfawr o ddogfennau ansoddol, ynghyd â chyfweliadau ansoddol lled-strwythuredig â chynrychiolwyr ar lefel llywodraeth leol, genedlaethol, Ewropeaidd, drawswladol a’r lefel anllywodraethol, yn tanlinellu bod angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o Raglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru fel adnodd hanfodol er mwyn datblygu, cydlynu a chydweithio ar draws Môr Iwerddon.

Rhannu’r stori hon