Astudiaeth yn bwriadu lleihau'r risg o Covid-19 pobl sy'n profi digartrefedd
8 Medi 2020
Pobl sy'n profi digartrefedd ers Covid-19 yn rhan o ymchwil yn asesu'r gefnogaeth y maent wedi'i derbyn.
Mae'r astudiaeth, y cyntaf o'i fath yn y DU, yn cael ei harwain gan academyddion Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd. Bydd yn asesu'n gadarn pa opsiynau tai sydd fwyaf tebygol o gynnig deilliannau cadarnhaol. Mae'r bartneriaeth arloesol hon wedi cael cyllid gan Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Ar ddechrau cyfnod clo Covid-19, cafodd llawer o bobl ddigartref gynnig o lety brys er mwyn hwyluso hunan-ynysu diogel. Wrth i awdurdodau lleol ddechrau creu trefniadau tai mwy addas i'r rheiny sy'n byw mewn gwestai a llety brys arall ar hyn o bryd, bydd yr astudiaeth hon yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr o ran taclo digartrefedd a lleihau Covid-19.
Bydd awdurdodau lleol yn Lloegr sy'n cymryd rhan yn cefnogi'r tîm ymchwil i ddilyn unigolion dros gyfnod o 12 mis i werthuso sut maen nhw, gan edrych ar sefydlogrwydd tai, iechyd a lles.
Y nod yw lleihau cyfradd heintio Covid-19, yn ogystal â lleihau'r risg o gyn-gysgwyr ar y stryd yn dychwelyd i ddigartrefedd.
Dywedodd Dr Peter Mackie, Prif Archwilydd yr astudiaeth, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: "Mae pandemig Covid-19 wedi arwain at newidiadau radical o ran polisïau ac ymatebion ymarferol i ddigartrefedd. Am y tro cyntaf, mae digartrefedd wedi cael ei ystyried yn argyfwng.
Dywedodd Dr Ligia Teixeira, Prif Weithredwr y Ganolfan Effaith Ddigartrefedd: "Wrth i ni wynebu byd sydd wedi newid yn sylweddol oherwydd y coronafeirws, mae'n rhaid i ni gymryd y cyfle i ddefnyddio tystiolaeth i wella deilliannau ar gyfer y rheiny yr effeithir arnynt fwyaf. Y gobaith yw drwy gynnal y treial y byddwn yn gallu rhoi'r dulliau sydd eu hangen ar awdurdodau lleol sydd ag adnoddau cyfyngedig i sicrhau nad yw pobl yn dychwelyd i'r strydoedd."
Bydd yr astudiaeth yn cynnwys tair prif elfen:
- Gwerthusiad effaith, er mwyn deall pa fathau o lety sydd â'r deilliannau gorau;
- Elfen broses a gweithredu, er mwyn deall y rhwystrau a'r hwyluswyr a'r gwahaniaethau o ran sut mae modelau llety gwahanol yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd awdurdod lleol; ac,
- Elfen gost, er mwyn deall pa fathau o lety sy'n cynnig y gwerth gorau am arian.
Mae'r astudiaeth, o'r enw Symud Ymlaen wedi cael £660,000 o gyllid gan UKRI yn rhan o'u rhaglen gyllid ar gyfer prosiectau tymor byr sy'n mynd ar ôl ac yn ceisio lleddfu effeithiau iechyd, cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Covid-19. Mae'n cael ei datblygu'n gydweithredol rhwng y Ganolfan Effaith Ddigartrefedd, Prifysgol Caerdydd, Alma Economics, a grŵp o chwech o awdurdodau lleol partner.
Disgwylir i'r prosiect barhau am 18 mis. Ymysg ei gefnogwyr mae'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau ac Awdurdodau Lleol (MHCLG), Bloomberg Associates a Comic Relief. Bydd y prosiect yn elwa ar gyngor arbenigol Tim Aubrey a Dennis Culhane, academyddion sy'n arwain y ffordd o ran ymyriadau digartrefedd o Brifysgol Ottawa a Phrifysgol Pennsylvania yn y drefn honno.
Ychwanegodd Dr Rebecca Cannings-John, arweinydd y gwerthusiad effaith o Ganolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd: "Symud Ymlaen yw'r treial cyntaf i gael ei gynnal yn y DU gyda phobl sy'n profi digartrefedd, ac rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd er mwyn ei alluogi.
Wedi'i sefydlu yn 2018, mae'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd yn sefydliad annibynnol sy'n cefnogi'r defnydd o ddata a thystiolaeth er mwyn ceisio dod â diwedd cynaliadwy i ddigartrefedd.