Y llyn hynafol yng Nghymru a ildiodd ei gyfrinachau
4 Medi 2020
Safle archaeolegol ‘capsiwl amser’ yn rhoi cipolwg rhyfeddol ar Gymru yn yr Oesoedd Tywyll, gwrthdrawiadau’r Llychlynwyr a merch ryfelgar Alfred Fawr
Mae llyfr newydd gan yr archaeolegwyr a arweiniodd y gwaith cloddio rhyfeddol ar unig grannog Cymru yn datgelu hanes cythryblus llys brenhinol ar lyn cyfriniol ym Mannau Brycheiniog i genhedlaeth newydd.
Mae Llangorse Crannog - the Excavation of a Royal Medieval Site in the Kingdom of Brycheiniog gan Dr Alan Lane a Dr Mark Redknap yn dilyn y gwaith cloddio a arweiniwyd gan yr awduron dros gyfnod o bum mlynedd o 1989 tan 1994, ac y dychwelwyd ato yn 2004.
Gan ddefnyddio’r technegau gwyddonol diweddaraf, bu’r tîm archaeolegol o Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn astudio darganfyddiadau a ddatgelwyd oedd yn cyfateb i gapsiwl amser o dri degawd yng Nghymru’r Oesoedd Tywyll.
Darganfuwyd y grannog - annedd gaerog hynafol a adeiladwyd mewn llyn neu gors - gyntaf ychydig dros 150 mlynedd yn ôl, ond yn wahanol i lawer o safleoedd cyfatebol yn yr Alban ac Iwerddon, dyma’r unig strwythur o’i fath y gwyddys amdano yng Nghymru.
Dywedodd Dr Alan Lane, sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Archaeoleg yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: “Wrth sylweddoli bod modd dyddio’r grannog yn fanwl a’i chysylltu â dinistrio’r safle gan Aethelflaed, daeth yn amlwg bod y safle’n gwbl unigryw yn Ynysoedd Prydain”.
Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil (Hanes ac Archaeoleg) yn Amgueddfa Cymru: “Mae’r dilledyn brodwaith sidan yn ganfyddiad eithriadol o brin, ac mae’n bosib ei fod yn rhodd gan lys y Brenin Alfred i frenin a brenhines teyrnas Brycheiniog yng Nghymru”.
Ymchwiliwyd iddo gyntaf yn yr 1860au gan yr hynafiaethwyr o oes Victoria, Edgar a Henry Dumbleton, ond heb lawer o ddarganfyddiadau i gadarnhau dyddiadau, ac aeth 120 o flynyddoedd heibio cyn i archaeoleg fodern fedru cadarnhau’n bendant strwythur y palas pren, gan ddatgelu yn y diwedd iddo gael ei adeiladu yn negawd olaf bywyd Alfred Fawr.
Mewn ymchwiliad cyfun ar y lan ac yn y dŵr, byddai’r tîm o arbenigwyr a myfyrwyr archaeoleg yn darganfod llawer mwy na’r hyn a ddisgwylid ar y cychwyn.
Yn y flwyddyn gyntaf, dangosodd dyddio dendro-gronolegol ar estyll palisâd derw o dan y dŵr fod yr adeiladu wedi digwydd ddechrau’r 890au. Profodd yr ymchwil mai byr fu oes y llys brenhinol ysblennydd: dangosodd astudiaeth wyddonol o’r gweddillion pren fod y safle wedi cael ei ddinistrio gan dân, sy’n cyd-fynd â’r cofnod yn 916OC yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd bod y safle wedi’i gipio gan fyddin o Loegr.
Ond byddai mwy o ddarganfyddiadau yn datgelu cipolwg hudolus ar fywyd pob dydd y teulu brenhinol ar y safle, gyda chip ar frenhines Mercia, Aethelflaed, hyd yn oed, merch Alfred, oedd yn enwog am ei thactegau, ac sydd bellach yn adnabyddus i genhedlaeth fodern fel ffigur allweddol yn y gyfres Netflix The Last Kingdom.
Trwy arolygon manwl a chloddio ar y tir ac o dan y dŵr, daeth y tîm â llu o drysorau i’r amlwg, o dystiolaeth glir am weithgynhyrchu a defnyddio gwaith metel seciwlar a chrefyddol o’r canol oesoedd cynnar i’r casgliad mwyaf o waith saer canoloesol cynnar yng Nghymru. Gan ei bod yn eisteddfa frenhinol, roedd hela a gwledda yn sicr yn rhan o fywyd rhai yno, ac mae’r nifer sylweddol o esgyrn anifeiliaid o’r cyfnod canoloesol cynnar yn awgrymu adloniant ar raddfa frenhinol.
Yn goron ar y cwbl roedd tecstil sidan a lliain wedi’i frodio’n rhyfeddol o gain, sydd bellach wedi’i ddadansoddi’n llawn ac wedi’i roi yn ei gyd-destun yn y llyfr newydd. Er ei fod wedi carboneiddio, mae’n datgelu darlun o fywyd yr elît sy’n gweddu i’r croniclau. Mae natur ysgafn y tecstil yn awgrymu perchennog statws uchel, megis y frenhines o Frycheiniog a gymerwyd yn wystl gan frenhines ryfelgar Wessex pan ddinistriwyd y safle.
Yn y canrifoedd a aeth heibio wedyn, byddai hanesion am dirlun suddedig gan Gerallt Gymro, y croniclydd ac archddiacon Brycheiniog yn y 12fed ganrif, yn cael eu disodli gan hanesion gwerin am balas a ddinistriwyd gan ddrygioni’r preswylwyr. Er na chafodd ei feddiannu wedyn, deuai’r safle’n amlwg eto yn ystod oes Elizabeth yn ystod anghydfod ffyrnig ynghylch eiddo a hawliau pysgota.
Llwyddodd y cloddio i fynd â hanes y safle yn ôl o leiaf saith mileniwm, trwy ddarganfod offer fflint o’r Oes Efydd Gynnar mor bell yn ôl â’r cyfnodau Neolithig a Mesolithig.
Mae’r cyhoeddiad, sy’n edrych o’r newydd ar yr ymchwiliadau cynnar, nid yn unig yn disgrifio anatomeg tomen y grannog a’i hadeiladwaith, a’r diwylliant materol a ddarganfuwyd, ond hefyd yn amlygu cysylltiadau diwylliannol, perthynas y deyrnas â mythau tarddiad, a chysylltiadau tebygol hefyd ag Iwerddon yn y canol oesoedd cynnar.
Cyhoeddiad gan Oxbow Books yw Llangorse Crannog - the Excavation of a Royal Medieval Site in the Kingdom of Brycheiniog gan Alan Lane a Mark Redknap. Cyhoeddir y llyfr nodedig hwn ar achlysur canmlwyddiant sylfaenu’r adran Archaeoleg gyntaf yng Nghymru gan Syr Mortimer Wheeler.