Rhagolygu i broffesiynolion gofal iechyd
25 Awst 2020

Mae un o uwch ddarlithwyr gwyddorau rheoli Prifysgol Caerdydd yn helpu proffesiynolion gofal iechyd i ddod i benderfyniadau doeth a chynllunio’n well ar gyfer y dyfodol trwy gynnig cyfres o weithdai yn rhad ac am ddim.
Trwy gyfrwng ‘R’, rhaglen feddalwedd gwyddorau data ac ystadegau agored ei ffynhonnell, bydd y Dr Bahman Rostami-Tabar, arbenigwr rhagolygu yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhoi hyfforddiant i bump o ymddiriedolaethau’r GIG ledled y deyrnas.
Gyda chymorth cydweithwyr yng Nghymuned R y GIG, mae’n gobeithio hybu trefn fodelu a rhagolygu all helpu’r GIG i benderfynu’n ddoeth ar faterion llunio polisïau, rheoli, arferion clinigol a chadwyni cyflenwi.
Gan ddefnyddio data go iawn a dychmygol am y cleifion a ddaw i adrannau damweiniau ac argyfyngau’r GIG, bydd yn gwneud y canlynol:
- amlinellu proses y rhagolygu
- cyflwyno’r ddamcaniaeth sydd wrth wraidd amryw fathau o ragolygu
- dangos sut mae defnyddio amryw fathau yn ‘R’
Trwy ddarogan angen gwasanaeth yn gywir, gall cynllunwyr a dadansoddwyr y GIG ddyrannu adnoddau’n fwy effeithlon. O safbwynt defnyddwyr y GIG, gall hynny osgoi tagfeydd, gwella safon y gwasanaeth, lleddfu pwysau staffio, lleihau amserau aros a chwtogi ar gostau trefn iechyd y wlad.
Meddai’r Dr Rostami-Tabar: “Yn aml, mae’n anodd defnyddio egwyddorion rhagolygu ar gyfer prosesau penderfynu am fod angen llawer o arbenigedd technegol i wneud hynny. Dyna’r rheswm dros gynnig y gweithdai hyn ar y cyd â Chymuned R y GIG...”

“Trwy ddysgu proffesiynolion y GIG sut mae pennu rhagolygon cywir yn ôl gwir ddata, gallwn ni effeithio’n fawr ar sefyllfa cleifion a staff o ran gofal iechyd.”
Dechreuodd y Dr Rostami-Tabar y prosiect fis Chwefror 2020 trwy gynnal gweithdy gerbron cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Waddoledig Swydd y Tŷ Ogofog y GIG.
O ganlyniad i ofynion gwladol y dylai pawb aros gartref yn ymateb i COVID-19, dechreuodd roi ei weithdai ar y we i dair ymddiriedolaeth arall yn Lloegr yn ystod misoedd Mehefin ac Awst.
Mae Paul Bullard, dadansoddwr galw, gallu ac adnoddau i’r GIG yn Lloegr, ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y gweithdy fis Mehefin.
Meddai: “O ganlyniad i’r hyfforddi personol, gallwn i fynd i’r afael o’r diwedd â syniadau nad oes modd eu deall trwy ddarllen llyfrau testun, a hoffwn i ddiolch i Bahman, Tom ac Alysia am gynnal y cwrs...”
“Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio popeth a ddysgais yn fy rôl yn hyderus gan fy mod yn deall pa ddulliau sy’n briodol a sut maen nhw’n gweithio.”
Mae bwriad i gynnal dau weithdy ychwanegol yn 2020 - y naill yng nghanolbarth Lloegr a’r llall yng Nghymru - er nad oes neb yn siŵr eto a fydd y rheiny’n cael eu cynnal yn bersonol neu ar y we.
Cydnabuwyd y Dr Rostami-Tabar yn un o gyfranogion Academi R y GIG yn ddiweddar. Mae’r academi yn rhoi hyfforddiant a chymorth i’r GIG ar gyfer datrys problemau yn ôl dulliau R, gan gryfhau adnoddau cyfredol megis gweithdai yn rhad ac am ddim.
Rhannu’r stori hon
Rydym yn cynnig cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd datblygu trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.