Gwobr ym maes rhagolygu
21 Awst 2020
Mae Sefydliad Rhyngwladol y Rhagolygwyr wedi cydnabod gwaith rhagorol un o ôl-raddedigion Prifysgol Caerdydd mewn modiwl rhagolygu yn ystod rhaglen i raddedigion.
Jeanne de Lagarcie, a gwblhaodd raglen MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy yn Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddar, yw enillydd gwobr 2020 y sefydliad trwy Brifysgol Caerdydd yn rhan o fenter sy’n cydnabod gwaith ôl-raddedigion ac is-raddedigion rhagorol.
Mae’r modiwl ym maes rhagolygu, sydd ymhlith rhai dewisol cyrsiau MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau ac MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy, yn ymwneud â’r wobr hon.
Lluniodd Jeanne adroddiad o’r enw ‘Sales Forecasting for Store Replenishment’ trwy gyfrwng Bookdown gan ddefnyddio R ac, i’r diben hwnnw, dadansoddodd ddata am gwmni Walmart cyn paratoi rhagolygon a gwerthuso cywirdeb y dulliau rhagolygu.
Llwyddiannau academaidd
Caiff Jeanne $100, tystysgrif cyflawniad gan y sefydliad ac aelodaeth ohono am flwyddyn yn rhad ac am ddim.
Mae Sefydliad Rhyngwladol y Rhagolygwyr yn un dielw a ddechreuodd ym 1982 ar gyfer helpu i gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio gwybodaeth am ragolygu.
Ymunodd Jeanne, a enillodd BSc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) yn Ysgol Busnes Caerdydd hefyd, â chwmni archwilio llongau Idwal fis Chwefror 2020 ar gyfer interniaeth yn gydlynydd rheoli syrfewyr.
Yn ystod y cyfnod pan oedd pawb yn gaeth i’w gartref o achos COVID-19, cwblhaodd Jeanne yr interniaeth o hirbell ynghyd â’i hastudiaethau cyn symud i’w rôl newydd yn gynorthwywr gweithrediadau fis Gorffennaf.
Dyma ragor am gyrsiau MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy ac MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau.