Cynigion ynghylch marchnad fewnol y deyrnas yn fygythiad difrifol i ddatganoli yn ôl y gymdeithas sifil
1 Medi 2020
Ymateb Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit (partneriaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru o dan nawdd Sefydliad yr Addysg Gyfreithiol) i ddogfen ymgynghori Llywodraeth San Steffan am y farchnad fewnol.
Dechreuodd Llywodraeth San Steffan ymgynghori pedair wythnos am ei Phapur Gwyn ynghylch marchnad fewnol newydd y DG ar 16eg Gorffennaf 2020, gan sbarduno argyfwng cyfansoddiadol arall o ran gadael Undeb Ewrop.
Mae’r ymateb yn dweud nad yw’r cynigion (sy’n awgrymu trefn eithriadol o eang ynghylch cydnabod a gwahaniaethu) yn ddigon manwl a’u bod yn fygythiad difrifol i drefnau rheoleiddio datganoledig amryw wledydd y deyrnas.
Yn ôl y drefn sydd wedi’i hawgrymu, byddai modd i nwyddau a gwasanaethau wedi’u cynhyrchu yn Lloegr osgoi gofynion rheoleiddio Cymru trwy egwyddor cydnabod eich gilydd. Hanfod yr egwyddor honno yw bod modd gwerthu nwyddau ym mhob rhan o’r deyrnas heb orfod cydymffurfio â gofynion lleol os ydyn nhw wedi’u gwerthu’n gyfreithlon rhywle ynddi. Er enghraifft, pe bai Cymru yn gwahardd nwydd plastig na ellir ei ailddefnyddio, ond Lloegr yn ei ganiatáu, byddai cynhyrchwyr yn Lloegr yn cael ei werthu yng Nghymru er gwaetha’r ffaith na fyddai neb yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu a’i werthu.
Mae honiad Llywodraeth San Steffan y bydd ei threfn arfaethedig yn rhoi grym i’r llywodraethau datganoledig trwy adael iddyn nhw gadw eu dulliau rheoleiddio eu hunain wrth rwystro pwerau sy’n dychwelyd o Undeb Ewrop rhag amharu ar y farchnad fewnol wedi’i feirniadu’n hallt, yn arbennig yng Nghaerdydd a Chaeredin.
Meddai Charles Whitmore, awdur yr ymateb:
“O safbwynt datganoli, bydd y cynigion hyn yn achosi problemau o ran prosesau a chynnwys. Dyma newid cyfansoddiadol mawr y bydd angen llawer mwy i’w ddatrys na phedair wythnos yng nghanol yr haf, yn ystod egwyl seneddol, tra bydd llawer o’r rhai sy’n berthnasol iddo yn dal i fynd i’r afael â Covid-19. Efallai bod hynny wedi digwydd o ganlyniad i’r dyddiad mae Llywodraeth San Steffan wedi’i bennu ar gyfer canu’n iach i Undeb Ewrop, ond rhaid holi a yw hast o’r fath cyn diwedd y pontio yn briodol o ystyried ehangder y broblem.
“Bydd y math o gydnabod sydd wedi’i awgrymu yn achosi sawl problem am y bydd angen dibynnu’n fawr ar gydweithio ac ymddiried ymhlith y llywodraethau. Er bod gwir angen gwella cydberthynas amryw lywodraethau’r deyrnas ers tro, penderfynodd Llywodraeth San Steffan roi’r gorau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y mater hwn cyn cyhoeddi ei Phapur Gwyn, heb adael iddi ei weld ymlaen llaw, hyd yn oed.”
Mae’r ymateb yn nodi enghreifftiau o Awstralia, Canada ac Undeb Ewrop wrth ddadlau y gallai’r cynigion dorri ar draws pwerau datganoledig a sbarduno ras i’r gwaelod trwy greu pwysau i ostwng safonau mewn meysydd megis yr amgylchedd, bwyd a lles anifeiliaid.
Daw hynny o ganlyniad i’r ffaith nad yw’r Papur Gwyn wedi ystyried sut mae cadw’r ddysgl yn wastad rhwng masnach fewnol esmwyth a gwerth datganoli a sut mae gofalu y bydd chwarae teg i’r sefydliadau datganoledig yn y strwythurau llywodraethau y bydd eu hangen er cydweithio rhyngddyn nhw. Ar ben hynny, does dim digon o fanylion ynghylch materion megis trin a thrafod eithriadau, osgoi anghytuno a datrys anghydfod yn y cynigion.
Ar y llaw arall, mae’r awgrym y bydd Llywodraeth San Steffan yn deddfu i ofalu na fydd modd i’r llywodraethau datganoledig sefydlu deddfau rheoli yn y maes hwn yn un dadleuol iawn.
Mae disgwyl y bydd deddf ar gyfer y farchnad fewnol yn yr hydref, ond mae’n annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ei chaniatâd deddfwriaethol heb newid mawr yn agwedd Llywodraeth San Steffan. Os digwydd hynny, fydd Llywodraeth San Steffan yn bwrw ymlaen â’i bwriad beth bynnag? A barnu yn ôl ei hanes ynghylch gadael Undeb Ewrop, gallai wneud hynny, ond diau y byddai ei pherthynas â’r llywodraethau datganoledig yn waeth fyth ac y byddai llai fyth o’r ymddiried a’r cydweithio y bydd eu hangen ar gyfer cydnabod.