Effaith COVID-19 ar fudo
28 Awst 2020
Mae cyfrol newydd sy'n edrych ar effaith pandemig Covid-19 ar fudo, anghydraddoldeb a thlodi wedi'i chydlynu a'i chyhoeddi gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Talaith Campinas (UNICAMP), Brasil, a Dr Shailen Nandy o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae Mudo Rhyngwladol a phandemig Covid-19, sydd wedi'i chyhoeddi ar-lein am ddim ac sy'n cynnwys gwaith dros 100 o ymchwilwyr, yn dadansoddi effaith y pandemig yn America Ladin, a'i ddynameg gyda mudo a thlodi.
Gan drafod ei gyfraniad, esbonia Dr Nandy, "Mae tlodi yn un o'r ffactorau sy'n ysgogi mudo. Mae anghydraddoldeb economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol cynyddol yn bwydo ansefydlogrwydd mewn llawer o wledydd, ac mae'n naturiol fod pobl am symud i amgylcheddau diogel lle gallant fyw a gweithio mewn heddwch.
"Mae pardduo mudwyr a ffoaduriaid gan wleidyddion a'r wasg fel y gwelir yn fynych yn y DU bellach yn digwydd mewn gwledydd fel Brasil gyda gwleidyddion poblyddol yn aml yn cysylltu poblogaethau mudol gyda phroblemau fel troseddu, trais a gorddefnydd o'r gwasanaethau cyhoeddus.
"Ond mae ymchwil yn dangos bod mudwyr yn gyfranwyr net i gymdeithasau gan eu bod yn tueddu i fod yn iau, yn fwy tebygol o weithio a thalu trethi ac yn llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus.
"Mae pandemig Covid-19 wedi dangos pa mor ddibynnol yw Prydain ar weithwyr mudol, sydd ar y llinell flaen naill ai fel gweithwyr iechyd neu mewn gwasanaethau eraill fel trafnidiaeth gyhoeddus."
Ers mis Mehefin 2018 mae Dr Nandy wedi bod yn hyfforddi ymchwilwyr yn Brasil ac yn cynnal ymchwil ar themâu tlodi gyda mudo ac anghydraddoldeb. Caiff yr ymchwiliadau hyn eu cynnal mewn cydweithrediad â'r Athro Ana Assis, yr Athro Rosana Baeninger a'r Athro Luís Vedovato yn UNICAMP.
Dywedodd yr Athro Vedovato: "Mae'r gyfrol yn ganlyniad pwysig i'r cydweithio strategol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNICAMP, a gyflawnwyd dan arweiniad yr Athro Munir Skaf.
"Drwy gyhoeddi'r gyfrol am ddim ein gobaith yw gwneud cyfraniad at wynebu'r pandemig sydd, yn Brasil, yn achosi i dlodi ac anghydraddoldeb dyfu ymhlith mudwyr a dinasyddion."
Mae'r gyfrol yn deillio o bartneriaeth rhwng ymchwilwyr yn UNICAMP, Prifysgol Caerdydd, Cronfa Boblogaeth y Cenhedloedd Unedig, Gweinyddiaeth Lafur Gyhoeddus Brasil, Cenhadaeth Paz ac Amgueddfa Mewnfudo Talaith São Paulo.
Cyhoeddir y gyfrol mewn Portiwgaleg ac mae ar gael ar-lein.