Ewch i’r prif gynnwys

Pobl gyda chyflyrau meddygol yn creu darluniau i ddogfennu effaith y cyfnod clo

27 Awst 2020

Art

Mae pobl sy'n dioddef o afiechydon anweledig wedi edrych ar yr effaith y mae'r cyfnod clo wedi'i chael arnynt drwy greu darluniau am eu profiadau.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan DrawingOut Invisible Diseases, sef prosiect gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae DrawingOut yn brosiect ymchwil ac yn adnodd cefnogi cleifion sy'n cynnig ffyrdd newydd o gyfathrebu i bobl sydd â chyflyrau iechyd anweledig.

Cafodd ei ysbrydoli gan waith ymchwil Dr Lisa El Refaie a Dr Sofia Gameiro sy'n dangos bod trosiadau gweledig yn aml yn gallu mynegi profiadau pobl o salwch yn fwy creadigol ac yn fwy cywir na disgrifiadau geiriol. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos y gall rhannu profiadau o'r fath ag eraill gefnogi iechyd meddwl ac arwain at fwy o wydnwch.

1st prize
Gwobr 1af

Dywedodd Dr Sofia Gameiro, sydd o'r Ysgol Seicoleg ac sy'n canolbwyntio ar ddeall a gwella profiadau gofal iechyd cleifion anffrwythlon: "Mae'r cyfnod clo wedi bod yn anodd i bawb. Ond ar gyfer y bobl sydd â chyflyrau iechyd anweledig - megis endometriosis, ME, diabetes ac iselder – bydd yn creu heriau penodol yn ôl pob tebyg. Mae llawer o bobl â chyflyrau o'r fath wedi gorfod ymneilltuo, gan gynyddu'r ymdeimlad o gael eu gadael i ddelio â'u symptomau ar eu pen eu hunain. Mae’r ffaith fod llawer o apwyntiadau gofal iechyd wedi cael eu gohirio neu eu canslo ers dechrau'r pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa.

“Y thema fwyaf cyffredin rydym wedi'i gweld gan y gwaith a anfonwyd i'r gystadleuaeth oedd ymdeimlad o ynysu a dyhead am gyswllt â phobl, yn enwedig pan ddechreuodd reolau'r cyfnod clo llacio ar gyfer gweddill y boblogaeth. Fodd bynnag, roedd rhai darluniau hefyd yn pwysleisio agweddau mwy cadarnhaol ar y cyfnod clo, megis y teimlad o fod mewn 'cocŵn' o gariad a gofal gan y rhai hynny o'u hamgylch, a'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol."

Gall darluniau fod yn adnodd cyfathrebu hynod bwerus ac mae ein hymchwil barhaus yn awgrymu bod gwaith a grëwyd gan ddefnyddio dull DrawingOut yn creu ymatebion mwy empathetig gan bobl yn hytrach na disgrifiadau cyffredin o effaith seicolegol afiechydon.

Dr Sofia Gameiro Reader

Bu’n rhaid canslo sawl gweithdy wyneb yn wyneb DrawingOut a digwyddiadau eraill a drefnwyd ar gyfer y Gwanwyn oherwydd Covid-19. Yn hytrach, lansiodd yr ymchwilwyr gystadleuaeth ddarlunio i annog pobl sydd â salwch anweledig i rannu eu meddyliau a'u teimladau am y cyfnod clo, ac er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'u hamgylchiadau penodol.

2nd prize
2il wobr

Yn ei sylwebaeth gyda’r gwaith, dywedodd yr artist dienw a enillodd y gystadleuaeth: “Mae’r cyfnod clo a gorfod gwarchod wedi hynny wedi gwneud imi fod yn genfigennus o bawb sydd â rhyddid ac sy’n cael cwrdd, cofleidio a bod yn agos at bobl eraill. Rwyf yn crio am ei fod yn deimlad dieithr ac, er fy mod yn ddiogel, rwyf yn teimlo’n hyll ac ar wahân.”

Dywedodd y beirniaid y canlynol am y gwaith buddugol: “Y darlun mwyaf angerddol a mynegiannol am drallod y cyfnod clo yn ychwanegol at gael salwch eisoes. Mae'n crynhoi anobaith a thosturi i’r un graddau, ac wrth edrych yn agosach mae rhywbeth trawiadol am y breichiau sydd fel petaent yn chwyrlïo o gwmpas heb lwyddo i wneud cyswllt, a'r ystyr a roddir i'r gofod rhyngddynt."

Dywedodd Dr Lisa El Refai, sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: “Roedd rhai o'r gwaith a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth yn amlwg gan artistiaid sydd eisoes yn fedrus dros ben, ond roedd llawer o'r darluniau oedd â'r mwyaf o deimlad wedi'u creu gan bobl ble oedd eu harddull yn awgrymu diffyg unrhyw fath o hyfforddiant ffurfiol. Mae hyn yn dangos y gall DrawingOut fod o fudd i unrhyw un, beth bynnag fo lefel eu hyfforddiant neu brofiad artistig."

3rd prize
3ydd gwobr

“Fe wnaeth safon uchel y gwaith celf a'r llu o ffyrdd pwerus a llawn teimlad yr oedd pobl wedi'u defnyddio i fynegi eu profiadau greu cryn argraff ar y tri barnwr – ac mae pob un ohonynt yn artist sy'n cael ei effeithio gan salwch anweledig ac sydd wedi creu gwaith celf gweledol am hyn. Er eu bod wedi'i chael hi'n anodd dewis tri enillydd yn unig, yn y diwedd gwnaethant benderfyniad unfrydol ynghylch pa ddarluniau oedd yn cyfleu'r profiad o fyw yn y cyfnod clo â chyflwr iechyd anweledig yn y ffordd fwyaf trawiadol a gwreiddiol."

Mae rhestr lawn o'r enillwyr ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.