Ewch i’r prif gynnwys

Mae astudiaeth ryngwladol yn datgelu lefelau isel o les ymysg plant yng Nghymru

26 Awst 2020

Wellbeing

Yn ôl tîm o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd mae gan blant yng Nghymru rai o'r lefelau isaf o les ymysg plant ar draws 35 o wledydd.

Gwnaeth y tîm, o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd (WISERD), arolygu mwy na 2,600 o blant ledled Cymru ynghylch eu hapusrwydd, eu boddhad a’u lles seicolegol eu hunain, yn ogystal â faint maent yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys mewn prosesau penderfynu.

Dangosodd yr arolwg fod gan blant hŷn lefelau is o les na phlant iau, gyda phlant hŷn yn dweud eu bod wedi teimlo'n drist, dan straen ac yn ddiflas yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mai ysgol yw'r lle y mae plant yn teimlo'r boddhad lleiaf.

Yng Nghymru, gwelwyd bod lles is ymysg bechgyn.

Roedd yr arolwg yn rhan o brosiect ehangach Bydoedd Plant – sef astudiaeth ryngwladol o les plant a arolygodd 128,000 o blant ar draws 35 o wledydd rhwng 2016 a 2019.

Hwn yw'r tro cyntaf y mae Cymru wedi bod yn rhan o'r prosiect Bydoedd Plant ers iddo gychwyn yn 2009.

Mae lles plant yn y DU wedi bod yn dirywio ers 2009 a gallai fod wedi dirywio hyd yn oed yn gynt yn ddiweddar, o ystyried pandemig presennol y Coronafeirws.

Cynhaliwyd yr arolwg gan dîm WISERD yn ystod tymor haf 2018 ac roedd yn cynnwys mwy na 2,600 o blant o Flwyddyn 6 a Blwyddyn 8.

Gofynnwyd cwestiynau tebyg i'r ddau grŵp oedran, er mwyn cymharu eu hatebion. Gwelwyd bod y plant hŷn yn nodi lefelau is o les ar y cyfan, o gymharu â'r plant iau.

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch boddhad a lles mewn perthynas â bywyd cartref a theulu, ffrindiau, yr ysgol a ble roeddent yn byw. Er bod llawer o blant yn hapus ac yn fodlon ar agweddau amrywiol ar eu bywydau, mae gwahaniaeth amlwg rhwng plant mewn gwahanol wledydd. Yr hyn sy'n peri pryder yw'r lefelau isel o les a nodwyd gan blant yng Nghymru, o gymharu â phlant mewn gwledydd eraill yn yr astudiaeth.

Er bod rhai o'r gwahaniaethau mewn atebion rhwng y gwledydd yn ymwneud yn rhannol â'r ffordd y mae'r plant o'r gwledydd hynny'n ymateb, mae'r lefelau isel a welir yng Nghymru yn arwyddocaol.

Yn arbennig o drawiadol yw'r lefelau cymharol isel o les seicolegol a welir ymysg plant 12 oed. Roedd y dulliau o fesur lles seicolegol yn cynnwys gofyn i blant am eu cyfrifoldebau a'u defnydd o amser, cyfeillgarwch pobl eraill, eu gwaith dysgu ac a ydynt yn teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol.

Er i blant Cymru gofnodi'r sgorau isaf ar bob un o'r mesurau unigol hyn, gwelwyd mai dim ond 6.3% oedd â lefelau isel cyson o ran lles seicolegol.

Hefyd, roedd lefelau cymharol isel o les ar gyfer plant yng Nghymru yn fwy amlwg o ran eu bywyd ysgol.  Yn yr ysgol uwchradd, gwelir lefelau gymharol isel o les o ran y perthnasoedd ag athrawon, cyd-ddisgyblion a phlant eraill yn eu hysgol, yr hyn yr oeddent yn ei ddysgu a'u bywydau cyffredinol fel disgyblion.

Mae WISERD yn cynnal gwaith pellach yn y maes hwn er mwyn deall y ffactorau sy'n helpu i esbonio'r anfodlonrwydd cymharol hwn yn well.

Mae'r canfyddiadau cychwynnol hyn o'r astudiaeth ryngwladol yn codi nifer o gwestiynau ynghylch y lefelau amrywiol o les a brofir mewn meysydd gwahanol o fywydau plant yng Nghymru.

Dywedodd cynorthwyydd ymchwil WISERD, Dr Jennifer May Hampton: “Wrth i ni ddod yn fwy ymwybodol o'r pwysau a roddir ar ein plant a phobl ifanc, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar yr effaith y mae'r rhain yn ei chael ar eu hapusrwydd a'u lles. Drwy ofyn i blant yn uniongyrchol, rydym wedi cael darlun manwl o fywydau a phrofiadau plant yng Nghymru.

Mae'n bwysig ein bod yn nodi ac yn deall meysydd o les isel, fel y gallwn fynd i'r afael â'r agweddau hynny sy'n cael effaith andwyol er mwyn gwella bywydau plant o ddydd i ddydd.

Mae'r adroddiad rhyngwladol llawn sy'n cynnwys atebion gan ychydig yn fwy na 128,000 o blant mewn 35 o wledydd bellach ar gael. Bydd tîm WISERD yn archwilio'r amrywiadau a welwyd rhwng Cymru a'r gwledydd eraill sy'n rhan o'r astudiaeth – ewch i'w wefan i gael y blogiau diweddaraf.

Bydoedd Plant yw’r astudiaeth fwyaf o'i math, wedi ei chyllido gan Sefydliad Jacobs, a chaiff ei chefnogi gan nifer o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.