Lleoedd Cynaliadwy’n penodi Cyfarwyddwr newydd
10 Awst 2020
Mae Dr TC Hales o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr newydd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE).
Mae Dr. Hales yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol ac amgylcheddol, ac yn Ddarllenydd yng Ngwyddorau’r Ddaear. Mae’n ymddiddori mewn deall y berthynas rhwng systemau ecolegol a chymdeithasol â pheryglon amgylcheddol.
Ac yntau wedi’i eni yn Christchurch, Seland Newydd, mae gan Dr Hales hen gysylltiadau â Chymru drwy ei hynafiaid a ymfudodd o Gwm Elan i Seland Newydd sawl cenhedlaeth yn ôl. Ar ôl cyflawni gradd israddedig ym Mhrifysgol Canterbury, yn Christchurch, a PhD ym Mhrifysgol Oregon, symudodd Dr Hales i Brifysgol Gogledd Carolina i weithio gydag ecolegwyr yng ngorsaf Ymchwil Ecolegol Hirdymor Coweeta, a datblygu ei ddiddordebau mewn gwaith rhyngddisgyblaethol.
Ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn 2015, a dod yn Gyfarwyddwr ym mis Awst 2020 mae T.C. wedi gweithio ar brosiectau mawr sy'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng penderfyniadau defnydd tir ac erydu gan afonydd a thirlithriadau. Mae ei waith ar ran isaf yr Afon Kinabatangan yn Borneo Malaysia yn ceisio deall gyrwyr ac effeithiau datgoedwigo trofannol ar erydu a storio carbon mewn priddoedd. A fel Cadeirydd Prosiect Aildyfu Borneo, mae'n defnyddio'r ymchwil hon i ddatblygu rhaglen ailgoedwigo cymunedol i adfer fforestydd a storio carbon.
Dywedodd Dr Hales “Mae ymchwil i gynaliadwyedd a rôl lleoedd yn arbennig o bwysig ar adeg y pandemig byd-eang sydd ohoni. Mae’r pandemig wedi amlygu’r heriau a godir gan ddatgoedwigo, sy’n dwysáu’r cysylltiad rhwng pobl â phathogenau anifeiliaid, manteision mannau naturiol i les, a phwysigrwydd cynnwys bwydydd a gynhyrchir yn fwy lleol a moesegol yn ein deietau. Mae hefyd wedi pwysleisio’r angen i ymgorffori agenda cynaliadwyedd yn ein bywydau, ein modelau busnes, a’r ffordd yr ydym yn llywodraethu.” Ychwanegodd “Mae trafodaethau ynghylch adferiad gwyrdd yn awgrymu y bydd angen sail ymchwil gref er mwyn i lywodraethau a busnesau wneud penderfyniadau am ddyfodol cynaliadwy a chyfiawn yn gymdeithasol. Bydd llawer o’r heriau i adferiad gwyrdd yn seiliedig ar leoedd, ac mae ein hymchwil yn fwyfwy pwysig i ddatrys y problemau hyn.”