Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn ymddeol.
29 Gorffennaf 2020
Mae'r Athro Marsden, a arweiniodd y gwaith o sefydlu Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn 2010 ac sydd hefyd yn Gadeirydd sefydledig mewn Polisïau a Chynllunio Amgylcheddol yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn ymddeol yr wythnos hon.
Dros y degawd diwethaf mae'r Athro Marsden wedi goruchwylio datblygiad y Sefydliad. Gan wneud cyfraniad gwyddonol rhyngwladol at faes rhyngddisgyblaethol Gwyddorau Cynaliadwyedd sy'n ehangu, gan ddatblygu ymchwil cynaliadwyedd yn seiliedig ar leoliad a helpu i ddatblygu cyfres o ddatblygiadau cysyniadol a methodolegol newydd sydd hefyd wedi helpu i lywio datblygiad polisi lleol a byd-eang megis Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, Polisi Bwyd yn yr UE a datblygiad polisi rhyngwladol ehangach a thrafodaethau.
Yn ystod ei yrfa mae'r athro Marsden wedi gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau cynghorol, gan ddylanwadu ar ddatblygiadau polisi sy'n dod i'r amlwg yn yr UE, y DU a lefelau gweinyddol datganoledig ac mae wedi cael rolau cynghorol a benodwyd gyda Phwyllgor Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol, a Phwyllgorau Cynaliadwyedd a Phwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Ymunodd Terry, sef myfyriwr graddedig a astudiodd Daearyddiaeth a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Hull, â Phrifysgol Caerdydd yn 1991 ac mae wedi cael sawl swydd, gan gynnwys Deon Astudiaethau Graddedig a Choleg y Graddedigion, Dirprwy Rhag Is-Ganghellor (Ymchwil) a Phennaeth yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol.
Dywedodd yr Athro Damian Walford-Davies, sef y Rhag Is-Ganghellor ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, "Rwyf yn falch o fod wedi cael Terry fel cydweithiwr ac rwyf wir wedi mwynhau gweithio gydag ef. Bydd ei yrfa nodedig yn parhau, wrth gwrs, ar ôl ymddeol a dylai Prifysgol Caerdydd fod yn hynod ddiolchgar iddo. Rydym wir yn dymuno'n dda iddo ac y caiff ymddeoliad ffrwythlon a boddhaol."