Ewch i’r prif gynnwys

Pharmabees yn helpu i greu gwaith celf yn Ysbyty Prifysgol Llandochau

21 Awst 2020

Mae’r tîm Pharmabees wedi partneru ag Ysgol Gynradd Llandochau, Nick Davies sy’n artist lleol a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Mae’r prosiect yn rhan o Ein Perllan, menter newydd sy’n bwriadu plannu perllan ar dir Ysbyty Prifysgol Llandochau fel man er lles cleifion a’r gymuned, lle gall bioamrywiaeth ffynnu hefyd.

Mae Nick Davies, artist Cymreig sydd â diddordeb ym myd meicro natur, ynghyd â disgyblion Ysbyty Llandochau wedi creu darnau o gelf i gyd-fynd ag ardal y berllan sydd wedi’i dynodi ar gyfer y gwenyn: Prosiect Gardd Gwenyn. Mae’r gwaith celf yn cynnwys mowldiau concrid wedi’u gwneud yn deils sy’n cynrychioli cylch bywyd gwenyn ynghyd â’r planhigion y mae ymchwilwyr Pharmabees wedi canfod bod ganddynt nodweddion gwrthfacterol – planhigion fel clychau’r gog a dant y llew.

I roi mwy o nerth academaidd i’r prosiect, ymwelodd Elizabeth Roche o Brifysgol Caerdydd ag Ysgol Gynradd Llandochau i addysgu’r plant Blwyddyn 5 a 6 am Pharmabees, a sut gall gwyddonwyr ddadansoddi mêl er mwyn chwilio am wrthfiotigau newydd. Cafodd y disgyblion eu croesawu i Adeilad Redwood, lle aethon nhw lan i’r cychod gwenyn ar y to i ddysgu mwy am y creaduriaid bach hyn sydd mor hanfodol i’r ecosystem.

“Mae staff prosiect Pharmabees yn anghredadwy o hael yn rhoi cefnogaeth i estyn eu rhaglen allgymorth i ysgolion, er mwyn calonogi plant i ymgymryd â phwnc gwyddoniaeth,” meddai Nick Davies.

Fel diolch, mae tîm Pharmabees wrth eu boddau’n derbyn gwaith celf arbennig gan y disgyblion i’w arddangos yn Adeilad Redwood.

Rhannu’r stori hon