Ewch i’r prif gynnwys

Peiriannydd o Gaerdydd yn ennill Gwobr uchel ei bri Hinshelwood ar gyfer Hylosgi

21 Awst 2020

Dan Pugh

Cyhoeddwyd Dr Daniel Pugh o'r Ysgol Peirianneg fel derbynnydd 2020 ar gyfer Gwobr Hinshelwood ar gyfer Hylosgi.

Dyfernir Gwobr Hinshelwood i gydnabod gwaith teilwng mewn unrhyw gangen o hylosgi gan wyddonydd ifanc o Adran Brydeinig y Sefydliad Hylosgi.

Enillodd y darlithydd, Dr Pugh, y wobr am ei gyfraniad i ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy (GTRC) yr Ysgol Peirianneg. Ariannwyd gan brosiect FLEXIS i ddatblygu technoleg system ynni hyblyg, Mae Dr Pugh yn gweithio'n bennaf ym maes tanwyddau di-garbon, amgen a lleihau allyriadau niweidiol. Mae'r wobr yn cwmpasu corff o'i waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys datblygu systemau hylosgi NOx-isel, a defnyddio diagnosteg uwch i nodweddu'r dylanwadau manteisiol posibl o stêm ar nwyon gwastraff.

Wrth siarad am ei brofiad fel ymchwilydd hylosgi, dywedodd Daniel: “Rwyf yn hynod falch o gael gwobr, sy'n cydnabod effaith barhaus y tîm ymchwil GTRC cyfan ac ansawdd anhygoel yr ymchwil a gynhyrchir ym Mhrifysgol Caerdydd."

Gwobr Hinshelwood yw unig wobr yr adran am gyfraniad cyffredinol i faes hylosgi.

Mae'r wobr er cof am Syr Cyril Hinshelwood, a rannodd y wobr Nobel ar gyfer Cemeg ym 1956 â Nikolay Nikolayevich Semyonov am ei waith ar hylosgi hydrogen.

Caiff y wobr ei chyflwyno yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Adran Brydeinig y Sefydliad Hylosgi, a fydd yn cael ei gynnal ar-lein ar 5 a 6 Tachwedd 2020.

Llongyfarchiadau i Dr Pugh oddi wrth bawb yn yr Ysgol Peirianneg.

Rhannu’r stori hon