Hanes mentergarwr ifanc
14 Awst 2020
Mae hanes masnachol myfyriwr sy’n astudio cwrs BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i gyflwyno ar wefan newyddion busnes yn ne-orllewin Lloegr.
Holwyd Olli Smith, a fydd yn dechrau ei flwyddyn olaf fis Medi 2020, yn ddiweddar am sefydlu gwasanaeth dosbarthu taflenni a phapurau newydd pan oedd yn ei arddegau, a’i uchelgais o ran ei fenter ddiweddaraf, Solus Supply.
Ac yntau ond 13 oed, roedd yr egin fasnachwr wedi dosbarthu ymhlith ychydig o gwmnïau lleol gardiau busnes cwmni dosbarthu taflenni roedd yn bwriadu ei sefydlu, Door2Door.
Ysgrifennodd Olli ar y cardiau fod ei wasanaeth yn un ‘rhad, gonest a chyflym’, gan ei ddisgrifio ei hun yn gyfarwyddwr rheoli. Anghofiodd am y cardiau wedyn nes i asiant eiddo lleol ei ffonio a’i wahodd i’w swyddfa.
Nid am y tro cyntaf yn ei oes fer - mae’n 22 oed bellach - llwyddodd Olli i daro bargen. Dosbarthu 1,500 o daflenni am £85.
Arweiniodd at ragor o waith i Olli a benderfynodd godi tâl ychwanegol am fynd ag un daflen i dŷ yn hytrach na nifer ohonyn nhw.
Ar ôl ailenwi ei gwmni’n Solus Distribution, aeth ati i hel rhagor o gwsmeriaid ledled y fro a, maes o law, roedd yn dosbarthu deunydd ar ran 25 o gwmnïau mawr a bychain yn ei filltir sgwâr.
Ar ei anterth, roedd tri gweithiwr arall yn y cwmni. Drwy gydol hynny, roedd Olli yn astudio ar gyfer arholiadau TGAU ac, wedyn, y Safon Uwch. Mae e wedi darllen llawer o lyfrau busnes ers ei arddegau.
Meddai: “Mae llyfr Alan Sugar, ‘What You See Is What You Get’, wedi fy ysgogi’n fawr. A hynny trwy gynnau tân mentergarwch ynof. Darllenais lyfrau busnes eraill wedyn, megis ‘Steve Jobs’ gan Walter Isaacson a ‘Screw It, Just Do It’ gan Richard Branson.”
Gorffennodd Solus Distribution fasnachu yn 2017. Penderfynodd Olli na fyddai’n gallu cynnal y cwmni yn ogystal ag astudio ar gyfer gradd rheoli busnes ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd e wedi sefydlu cwmni arall o’r enw Solus Supply yn 2013 i werthu dillad, fodd bynnag.
Meddai: “Rwy’n hoffi prynu dillad fy hun. Fe welais fod mwy a mwy o alw am ddillad dilys o safon. Dechreuais fasnachu trwy Facebook, Instagram ac eBay ond rwy’n gweithio trwy wefan y cwmni erbyn hyn.”
Mae’r cwmni’n cynnig dillad megis crysau T, siwmperi ac amryw fathau o siacedi. Yn ogystal â gwerthu dillad o dan enw ei gwmni ei hun, mae’n cynnig brandiau megis Marino Morwood a Nike.
“Daw tua 40% o’r archebion o’r deyrnas yma a’r gweddill o dramor gan gynnwys tua 20% o Asia. Mae’n eithaf anodd cadw’r peli i gyd yn yr awyr am fy mod newydd dreulio blwyddyn yn y byd masnachol yn rhan o’m cwrs ac, felly, fy nhad sy’n gweinyddu’r busnes am y tro...”
Cyflwynodd Olli gais am arian yn ddiweddar i Dîm Menter a Dechrau Busnesau Prifysgol Caerdydd. Ynghyd â nifer o fyfyrwyr eraill, cafodd gymorth trwy ‘Gronfa’r Camau Cyntaf’, a defnyddiodd yr arian i hyrwyddo gwefan Solus Supply trwy gyfrwng Facebook, Google ac Instagram.
Ble bynnag rydych chi yn eich datblygiad masnachol, gall Tîm Menter a Dechrau Busnesau Prifysgol Caerdydd eich helpu i feithrin medrau sefydlu cwmni, gweithio ar eich liwt eich hun ac arloesi.