Ewch i’r prif gynnwys

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr sy’n graddio

6 Awst 2020

Hoffem anfon llongyfarchiadau enfawr i'n holl fyfyrwyr blwyddyn olaf ar raddio o'r Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr.

Gan fod 89% o'n graddedigion yn mynd ymlaen i gyflogaeth sicr neu astudiaethau pellach, fe wyddom eu bod ar fin dechrau’r bennod gyffrous nesaf yn eu bywydau a'u gyrfaoedd. Maen nhw'n ymuno â chymuned ffyniannus o Gyn-fyfyrwyr Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr sy'n cadw cysylltiad â ni ar grŵp LinkedIn Cyn-fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr.

I'r holl fyfyrwyr drwy'r wlad, bu’r misoedd diwethaf yn heriol iawn. Maen nhw wedi golygu addasiadau cyflym i astudio dan gyfyngiadau na ragwelwyd gan neb yn sgil pandemig COVID-19.

I fyfyrwyr Prifysgol daeth hyn wrth iddyn nhw gwblhau eu prosiectau ymchwil pwysig, ac wrth ddechrau adolygu ar gyfer eu harholiadau diwedd blwyddyn. Eto i gyd, dangosodd ein myfyrwyr i gyd wydnwch rhyfeddol wrth addasu i'r byd ar-lein gan ddyfalbarhau i gwblhau eu dysgu a'u hasesu.

Hoffem nodi'n benodol enillwyr gwobrau'r Ysgol eleni, ac rydym ni'n cydnabod yr enillwyr canlynol yn arbennig:

Evan Llewelyn Davies Prize awarded for best performance in the final year: Jamie Foster (BSc Geology), Nourah Alsagga (BSc Exploration Geology) and Manon Carpenter (MSci Geology).

Micropalaeontological Society Prize awarded to the student(s) with the best performance(s) in Marine Microfossils: Harriet Dingle and Mia Tarrant, who both had identical outcomes.

Marine Geography Prize awarded for best performance in final year Marine Geography: Maximillian Sealy.

Robert Kidd Prize, donated by the family of Professor Robert Kidd, awarded for best performance: Steffan Broschott (BSc Environmental Geosciences), Rory Rolt (BSc Environmental Geography), David Whitfield (MSci Environmental Geoscience),
Jessica Macha (MSci Environmental Geography).

Kelvin Rhodes Memorial Prize, donated by the family of Kelvin Rhodes, awarded for best BSc independent field-based report: Jack Davies (Geology), Robert Lauder (Exploration Geology), Steffan Brosschot (Environmental Geosciences), Rhys Moore (Environmental Geography).

Adrian Cramp Prize, donated by the family of Dr Adrian Cramp, awarded for excellence in Marine and Coastal research/ the best final year independent project on a marine or coastal topic: Anna Weatherley.

Livesey and Henderson Prize awarded for excellence in research into Ocean Resources Management: Niamh Young.

Cox Medal in commemoration of Professor H. Cox, a previous head of the Geology Department Outstanding and best performance in the Graduating Year: Maximillian Sealy.

Top student on the MSc in Applied Environmental Geology: Tamba Komba.

Stephen Farrell Award for outstanding contribution to the School during 2019-20: Jamie Price.

Best overall performances in year one, an external award from the Geological Society: Louis Pyper (Geology), Maxwell Porter (Exploration Geology),  Phillip Penning (Environmental Geoscience).

Roedd ymdrechion y blynyddoedd eraill i gyd yn cwblhau asesiadau cynnydd hefyd yn glodwiw mewn cyfnod mor anodd, ac edrychwn ymlaen at eu croesawu'n ôl i'r Ysgol ddiwedd mis Medi, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Drwy'r cyfnod digynsail hwn nad oedd modd ei ragweld, rydym ni wedi gallu cymryd amser i ystyried a dysgu cymaint am ein cryfderau a'n galluoedd.

Rydym ni nawr yn datblygu dulliau dysgu cyfunol i'n modiwlau i gyd, fydd yn ein caniatáu i weithio'n ddiogel gyda'n gilydd a pharhau i fwynhau'r cyfleoedd cyffrous mae dysgu Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr yng Nghaerdydd yn gallu eu cynnig.

Yn y cyfamser, dymunwn wyliau haf pleserus i'n myfyrwyr i gyd, gan eich llongyfarch unwaith eto ar eich dyfalbarhad a'ch holl lwyddiannau

Rhannu’r stori hon