Gwobr Terradat i fyfyriwr ôl-raddedig rhagorol
15 Awst 2020
Myfyriwr Meistr graddedig, Tamba Komba, yn derbyn gwobr am ei berfformiad rhagorol ar raglen radd Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol.
Cynhaliodd Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr seremoni rithwir i ddathlu carfan myfyrwyr israddedig 2020 a’r rheiny gyflawnodd radd Meistr yn 2019. Gwnaeth rhan o’r derbyniad gynnwys dyfarniadau gyda dim ond un wobr ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig - y marc cyffredinol uchaf mewn Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc).
Cafodd Tamba Komba, a gafodd y radd ragoriaeth gyffredinol uchaf ar y cwrs, ei gyhoeddi’n enillydd y flwyddyn hon.
Ar gyfer ei draethawd hir, bu Tamba yn gweithio gyda'r cwmni gwasanaethau geocemeg mwyngloddio Geochemic yn eu swyddfeydd ym Mhont-y-pŵl. Roedd ei rôl yn cynnwys dadansoddiadau cemegol a mwynegol o’r cerrig gwastraff o fwynglawdd Kevitsa yn y Ffindir.
Lluniwyd prosiect traethawd hir Tamba er mwyn pennu potensial adfer mwyn o gerrig gwastraff drwy ailgylchu’r deunydd mân mewn modd cynaliadwy. Arweiniodd dadansoddiadau Tamba at ddatblygu technegau ymarferol i wella bywyd mentrau mwyngloddio drwy ailgylchu’r hyn a fyddai’n cael ei wastraffu fel arfer.
Ochr yn ochr â’i draethawd hir, bu Tamba yn gwneud gwaith elusennol Cristnogol yng Nghaerdydd gyda’r digartref dros wyliau’r Nadolig.
Ar ôl cyflawni ei radd Meistr yn llwyddiannus, dychwelodd Tamba i’w gartref yn Sierra Leone i weithio’n ddarlithydd amser llawn yng Ngholeg Bae Fourah ym Mhrifysgol Sierra Leone. Ar hyn o bryd, mae Tamba’n diwygio ei draethawd hir i’w gyhoeddi mewn amrywiaeth o gyfnodolion.
Mae’r tîm addysgu o raglen radd Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol yn dymuno’r gorau i Tamba gyda’i yrfa academaidd, gan ddweud “roedd yn fraint bur dod i’w nabod e, a gobeithiwn y bydd ein perthynas yn un barhaus”.
Llongyfarchiadau i Tamba gan bawb yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr am ei holl waith caled.
Hoffai’r Ysgol ddiolch i TerraDat UK am noddi’r wobr a Mining Environmental Management am noddi traethawd hir Tamba. Mae gan y ddau gwmni yn ne Cymru gysylltiadau agos â'r rhaglen radd Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol.
.